Cangen o ddiwinyddiaeth yw theodiciaeth sydd yn ymdrechu i ateb y broblem drwg, hynny yw pam bod Duw yn caniatáu pethau drwg i ddigwydd.

Geirdarddiad golygu

Cyfaddasiad yw'r gair Cymraeg o'r Saesneg theodicy, sydd yn ei tro yn tarddu o'r Ffrangeg Théodicée, enw ar gasgliad o draethodau gan yr Almaenwr Gottfried Leibniz a gyhoeddwyd gyntaf ym 1710. Fe gyfunodd y geiriau Groeg theos, sef "duw", a dikē, sef "cyfiawnhâd", ac felly ystyr lythrennol y gair yw i gyfiawnhau duw, neu i amddiffyn priodoleddau duw.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  theodiciaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Hydref 2017.
  2. Stoeber M. "Leibniz’s Teleological Theodicy" yn Evil and the Mystics' God (Llundain: Palgrave Macmillan, 1992).
  Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.