Ysgolhaig Groegaidd a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Theodoros Gazis (tua 14151476) sydd yn nodedig am gyfieithu sawl gwaith o'r iaith Roeg i'r Lladin.

Theodoros Gazis
Ganwyd1398 Edit this on Wikidata
Thessaloníci Edit this on Wikidata
Bu farw1475 Edit this on Wikidata
San Giovanni a Piro Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Vittorino da Feltre Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, athro cadeiriol, athronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ferrara Edit this on Wikidata
MudiadDyneiddiaeth Edit this on Wikidata

Ganed yn Thessaloníci yn ystod y cyfnod pan oedd yr Ymerodraeth Otomanaidd yn ehangu ei thiriogaeth yn y Balcanau. Mae union fanylion ei fywyd cynnar yn ansicr, ond mae'n debyg yr oedd yn aelod o deulu pwysig yn y gymuned leol. Yn ôl ambell ffynhonnell, treuliodd Theodoros rhywfaint o'i ieuenctid yn fynach yng Nghaergystennin ac yn gyfaill i'r Eidalwr Francesco Filelfo a fu'n astudio'r iaith Roeg yno o 1420 i 1427. Mae sawl ffynhonnell yn awgrymu i Theodoros deithio gyda'r cenadaethau Bysantaidd i Gyngor Eglwysig Ferrara ym 1438–9, ond annhebygol ydy hynny.[1]

Ffoes Theodoros i'r Eidal wrth i'r Otomaniaid goncro mwy o diriogaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd a nesu at Gaergystennin. Treuliodd y cyfnod 1440–3 yn Pavia, ger Milan, yn copïo llawysgrifau Groeg. Symudodd i Mantua i weithio yn athro cynorthwyol yn ysgol ddyneiddiol Vittorino da Feltre, a dysgodd yr iaith Ladin wrth ei waith. Bu'n astudio meddygaeth, yn cyfieithu llawysgrifau, ac yn addysgu'r iaith Roeg i Vittorino a'u disgyblion. Penodwyd Theodoros yn athro Groeg ym Mhrifysgol Ferrara ym 1446 a llwyddodd i ddenu niferoedd mawr o fyfyrwyr gyda'i ddarlithoedd. Cynigwyd iddo hen gadair academaidd Manuel Chrysoloras ym Mhrifysgol Fflorens gan Cosimo de' Medici, ond penderfynodd Theodoros wrthod y swydd honno. Gyda chymorth y Cardinal Johannes Bessarion, a oedd hefyd yn ysgolhaig Groeg alltud, enillodd Theodoros nawdd y Pab Niclas V i gyfieithu llenyddiaeth Hen Roeg i'r Lladin a chafodd ei groesawu i Rufain ym 1449. Wedi marwolaeth y Pab Niclas ym 1455, parhaodd Theodoros i gyfieithu llawysgrifau, yn Rhufain dan nawdd y Cardinal Bessarion ac yna yn llys Alfonso I, brenin Napoli.

Gwerthfawrogwyd cyfieithiadau Theodoros gan ddyneiddwyr Eidalaidd am iddynt wella ar drosiadau digabol a chamgyfieithiadau gan ysgolheigion yr Oesoedd Canol. Prif gyfraniad Theodoros at glasuriaeth y Dadeni oedd ei argraffiadau o weithiau Aristoteles a Theophrastus. Yn y ddadl athronyddol rhwng ysgolheigion Groeg yn ail hanner y 15g, cytunai Theodoros ag ymdrechion Bessarion i Blatoneiddio gwaith Aristoteles, yn groes i Georgius Trapezuntius, amddiffynnydd y traddodiad Artistotelaidd ysgolaidd.[2] Gofynnodd y Pab Niclas i Theodoros gywiro camdrosiadau Georgius o athronwyr naturiol yr Henfyd, ac o'r herwydd bu cystadleuaeth ysgolheigaidd rhyngddynt.[1] Cyfieithodd Theodoros hefyd sawl awdur Rhufeinig, yn eu plith Iŵl Cesar a Cicero, o Ladin i Roeg. Ysgrifennodd ramadeg Roeg, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn Fenis gan Aldus Manutius ym 1495, a ystyriwyd yn yr arweiniad gorau i'r iaith honno gan Desiderius Erasmus, a gyfieithodd rhan ohono i Ladin ym 1516. Yn ogystal, ysgrifennodd Theodoros nifer o draethodau, llythyrau, ac areithiau yn yr ieithoedd Groeg a Lladin.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Georgios Steiris, "Gaza, Theodore" yn Encyclopedia of Renaissance Philosophy, golygwyd gan M. Sgarbi (Springer, 2015). Adalwyd ar 20 Awst 2020.
  2. 2.0 2.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 160–1.