Anne o Cleves
Y bedwaredd o chwech gwraig Harri VIII, brenin Lloegr, oedd Anne o Cleves (22 Medi 1515 - 16 Gorffennaf 1557). Dim ond am chwe mis y parodd y briodas (Ionawr - Gorffennaf, 1540) cyn i Harri ei hysgaru.
Anne o Cleves | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
22 Medi 1515 ![]() Düsseldorf ![]() |
Bu farw |
16 Gorffennaf 1557, 17 Gorffennaf 1557 ![]() Achos: canser ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth |
Yr Almaen ![]() |
Galwedigaeth |
pendefig ![]() |
Swydd |
brenhines gydweddog ![]() |
Tad |
John III, Duke of Cleves ![]() |
Mam |
Maria of Jülich-Berg ![]() |
Priod |
Harri VIII ![]() |
Perthnasau |
Marie Eleonore of Cleves, Mari I, Elisabeth I, Edward VI ![]() |
Llinach |
Y Teulu La Marck ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Cafodd ei geni yn Düsseldorf, yn ferch i Ioan III, Dug Cleves, a'i wraig Maria. Priododd Harri ar 6 Ionawr 1540, yn y Palas Placentia, Greenwich.
Comisiynodd Harri yr arlunydd Hans Holbein yr Ieuaf i beintio llun ohoni (a'i chwaer Amelia) gan fynnu y dylai Hans beintio llun gonest ohoni. Peintiodd ddau lun ac mae'r naill i'w weld yn y Louvre a'r llall yn y Victoria and Albert Museum, Llundain. Arwyddwyd y Cytundeb Priodasol yn Hydref 1539, wedi i Harri glywed fod Anne yn ferch dawel a oedd yn hoff iawn o chwarae cardiau a gwnïo. Cyfarfu'r ddau ar Ddydd Calan 1540, ac ym marn Harri, doedd hi ddim hanner mor ddel, ni allai ddarllen Saesneg ac nid oedd wedi derbyn addysg ffurfiol: She is nothing so fair as she hath been reported, dywedodd.[1] Ymbiliodd Harri i Cromwell ddarganfod ffordd o beidio'i phriodi, heb droi'r Almaen yn eu herbyn.
Gan na chysgodd y ddau gyda'i gilydd ni choronwyd hi'n llwyr a galwyd hi'n 'Chwaer Annwyl y Brenin' (King's Beloved Sister). Rhoddwyd setliad ariannol hael iddi a chadwodd ei phen.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Schofield, John (2011). The Rise & Fall of Thomas Cromwell: Henry VIII's Most Faithful Servant. t. 361.