Thomas Glynn (Glynllifon)

gwleidydd o Gymro

Bonheddwr, gwleidydd a botanegydd oedd Thomas Glynn (c.1596–1647). Mab hynaf Syr William Glynn a'i wraig Jane Griffith - y plentyn hynaf o chwe brawd a phedair chwaer yn y cartref ym Mhlas Glynllifon, Sir Gaernarfon.[1] Yn ystod ei gyfnod adeiladwyd y Plas Newydd bresennol[2] yng Nglynllifon.[3] Llenwodd nifer o swyddi gweinyddol yn Sir Gaernarfon gan gynnwys swydd Ddirprwy Raglaw (1620-42) ac Ynad Heddwch (1621-1647).[4] Bu’n Aelod Seneddol ar sawl achlysur[4][5] Yn frenhinwr anfoddog[4], bu’n gefn i’r Brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr nes iddo droi at y Senedd yn 1646 a’i apwyntio’n gwnstabl castell Caernarfon.[4]  Bu ganddo ddiddordeb arbennig mewn planhigion gwyllt ei ardal. Mae’n debyg mai Thomas Glynn yw’r Cymro cyntaf y gwyddys amdano yn mynd ati i hel enghreifftiau o blanhigion cynhenid a’u cofnodi mewn modd ffurfiol.[6] Bu’n llythyru a Thomas Johnson (m. 1644), golygydd pwysig (1633) Herball John Gerard, ac un o fotanegwyr pwysicaf Lloegr. Bu Johnson yn lletya yng Nglynllifon yn ystod ei daith ddylanwadol i Ogledd Cymru ym mis Awst 1639. Bu Thomas Glynn a Thomas Johnson yn gymdeithion am beth o’r daith hono.[1] Thomas Glynn oedd un o’r cyntaf i ddarganfod y planhigyn Achillea maritima neu Edafeddog y môr, a hynny ger Dinas Dinlle.[1][7]

Thomas Glynn
Ganwydc. 1596 Edit this on Wikidata
Bu farw1647 Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1624–5, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr Ebrill 1640 Edit this on Wikidata

Llyfryddiaeth golygu

  • Glyn Roberts, "The Glynnes and the Wynns of Glynllifon", Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, 8 (1948), 28

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Thomas Glynn, AS a botanegydd". Cof y Cwmwd (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai). 18 Mehefin 2022. Cyrchwyd 14 Hydref 2023.
  2. "Plas Newydd (Hysbyseb Asiant)" (PDF). Jackson-Stops & Staff. Cyrchwyd 14 Hydref 2023.
  3. Wiles, John (28 Mehefin 2007). "Plas Newydd, Glynllifon Park". Coflein (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Cyrchwyd 14 Hydref 2023.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Healy, Simon (2020). "GLYNNE, Thomas (c.1596-1647), of Glynllivon, Caern". The History of Parliament Online. Cyrchwyd 14 Hydref 2023.
  5. Breese, Edward (1873). Kalendars of Gwynedd (PDF). Llundain: John Camden Hotten. t. 104.
  6. Jones, Dewi (1996). The Botanists and Guides of Snowdonia. Llanrwst, Gwynedd: Llygad Gwalch Cyf. tt. 16–20. ISBN 9781845240646.
  7. Tony Murray a Mike Wyse Jackson (2022). "The history, status and conservation management of Cottonweed Achillea maritima (Otanthus maritimus) at Lady's Island Lake, Co. Wexford, Ireland". British & Irish Botany 4: 248-272. https://britishandirishbotany.org/index.php/bib/article/view/124.