Thomas Johns
Gweinidog o Gymru oedd Thomas Johns (26 Tachwedd 1836 – Medi 1914). Bu'n weinidog Capel Als, Llanelli, o 1869 hyd ei farwolaeth ym 1914.
Thomas Johns | |
---|---|
Ganwyd | 1836 |
Bu farw | 1914 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Thomas Johns yn Llanwrda, Sir Gaerfyrddin ar 26 Tachwedd 1836.[1] Yn 13 oed fe'i dderbyniwyd yn aelod o gapel Tabor, Llanwrda, gan Thomas Jones, tad David Brynmor Jones.[1] Cychwynodd bregethu yn 1858 a'r flwyddyn ganlynol aeth i Ysgol Llanymddyfri cyn hyfforddi i'r weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Aberhonddu.[1] Roedd ei fugeiliaeth cyntaf yn Ebenezer, Sir Gaernarfon, adwaenir heddiw fel Deiniolen.[2]
Gweinidogaeth yn Llanelli
golyguYn 1869, derbyniodd wahoddiad unfrydol i olynu David Rees yng Nghapel Als.[3] Derbyniwyd y gwahoddiad a dyna gychwyn ar gysylltiad â Llanelli hyd ei farwolaeth.
Adeiladwyd ystafell ysgol yn gynnar yn ei fugeiliaeth, ac yn 1875 rhyddhawd grŵp o aelodau i ffurfio capel newydd yn Tabernacl Llanelli, a cyfrannwyd swm sylweddol gan Capel Als.[3] Yn 1895, ail-adeiladwyd Capel Als ei hun ar gost o £5,000.[3] Chwaraeodd Johns ran blaenllaw yn sefydlu Undeb Cynulleidfawyr Cymru, a daeth yn lywydd yn 1890.[3]
Bywyd cyhoeddus
golyguRoedd gweithgareddau Johns yn ymestyn tu allan i fywyd y capel, a daeth yn aelod blaenllaw o Fwrdd Ysgol Llanelli a Chyngor Sir Gaerfyrddin.
Bu farw Johns yn Medi 1914, yn fuan wedi cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Un o'i weithredoedd cyhoeddus olaf oedd datgan ei gefnogaeth dros achos y rhyfel.[1] Fe;i gladdwyd yn Mynwent Llanelli.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Dr Johns, Capel Als. Death of Famous Welsh Congregationalist Divine at Llanelly". Cambria Daily Leader. 19 Medi 1914. Cyrchwyd 14 Mai 2016.
- ↑ "Cyfarfod Ymadawol y Parch T. Johns, Ebenezer, Llandinorwig". Y Dydd. 8 Tachwedd 1869. tt. 4–5. Cyrchwyd 16 Mai 2016.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 "Johns, Capel Als. Death of the Veteran Preacher". Llanelly Star. 19 Medi 1914. t. 1. Cyrchwyd 16 Mai 2016.