Thomas Peter Ellis
Roedd Thomas Peter Ellis ( 4 Mehefin 1873-7 Gorffennaf, 1936) yn farnwr yn nhalaith Pwnjab India yn nyddiau yr ymerodraeth.[1]
Thomas Peter Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mehefin 1873 Wrecsam |
Bu farw | 7 Gorffennaf 1936 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | barnwr, awdur, hanesydd |
Fe'i ganwyd yn Wrecsam yn fab i Peter Ellis a Mary Lewis. Bu farw ei dad pan oedd T. P. yn fachgen, a symudodd i fyw gyda theulu ei fam yng Nglyndyfrdwy.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Croesoswallt a Choleg Lincoln Rhydychen. Wedi darfod yn y coleg ymunodd â gwasanaeth sifil yr India. Codwyd ef yn farnwr rhanbarth a sesiwn yn y Pwnjab ac yn ystod cyfnod y rhyfel byd cyntaf bu'n twrnai cyffredinol llywodraeth y Pwnjab.
Priododd dwywaith. Ei wraig cyntaf oedd Rosetta McAlister, bu hi farw yn 1912. Yr ail wraig oedd Hilda Broadway. Cafodd dau o blant.
Dychwelodd i Gymru ym 1921 gan ymsefydlu yn Llysymynach, Dolgellau. Cymerodd diddordeb mawr yn hynafiaethau Cymru gan gyhoeddi nifer o lyfrau hanesyddol.
Llyfrau
golyguYmysg ei gyhoeddiadau oedd
- The Story Of Two Parishes Dolgelley & Llanelltyd[2]
- Welsh Tribal Law and Custom in the Middle Ages,
- The First extent of Bromfield and Yale,
- The Tragedy of Cymmer,
- The Catholic Martyrs of Wales (Roedd T. P. Ellis yn aelod brwd o'r Eglwys Gatholig)
- The Welsh Benedictines of the Terror.
- Dreams and Memories (hunangofiant)
Marwolaeth
golyguBu farw ar 7ed Gorffennaf 1936 mae ei fedd yn ardal cysegredig y Catheligion ym mynwent gyhoeddus Dolgellau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "ELLIS, THOMAS PETER (1873 - 1936), barnwr I.C.S. (h.y. gwasanaeth gwladol yr India), awdurdod ar gyfreithiau arferiadol y Punjab a chyfreithiau Cymru yn y Canol Oesoedd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-10-04.
- ↑ "Dolgelley & Llanelltyd Contents". sites.rootsweb.com. Cyrchwyd 2024-10-04.