Thomas Tomkins
Roedd Thomas Tomkins (1572 - 9 Mehefin 1656) yn gyfansoddwr o ddiwedd cyfnod y Tuduriaid a chychwyn cyfnod y Stuartiaid. Yn ogystal â bod yn un o aelodau amlwg Ysgol Madrigal Lloegr, roedd yn gyfansoddwr medrus o gerddoriaeth bysellfwrdd a chonsort, ac yn un o aelodau olaf yr ysgol firdsinalydd Lloegr.[1]
Thomas Tomkins | |
---|---|
Ganwyd | 1572 Tyddewi |
Bu farw | 9 Mehefin 1656 Swydd Gaerwrangon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, organydd |
Mudiad | cerddoriaeth faróc |
Plant | Nathaniel Tomkins |
Bywyd cynnar
golyguGaned Tomkins yn Nhyddewi ym 1572.[2] Roedd ei dad, Thomas arall, a oedd wedi symud yno ym 1565 o gartref y teulu yn Lostwithiel yng Nghernyw, yn ficer corawl Cadeirlan Dewi Sant ac yn organydd yr addoldy[3] Daeth tri o hanner frodyr iau Thomas; John, Giles a Robert, hefyd yn gerddorion amlwg, ond heb lwyddo i ennill enwogrwydd Thomas. Erbyn 1594, ac o bosibl mor gynnar â 1586, roedd Thomas a'i deulu wedi symud i Gaerloyw, lle cafodd ei dad ei gyflogi fel is ganon yn yr eglwys gadeiriol. Mae Thomas bron yn sicr wedi astudio o dan William Byrd am gyfnod, gan fod un o'i ganeuon yn dwyn yr arysgrif: "I fy hen a mwyaf parchus Meistr, William Byrd". Mae’n bosib bod Tomkins wedi ei hyfforddi gan Byrd yn y cyfnod hwn, gan fod Byrd wedi'i brydlesu eiddo yn Longney, ger Caerloyw ar y pryd. Er nad oes prawf pendant, mae hefyd yn debygol bod Byrd yn allweddol wrth ddod o hyd i le i’r Thomas ifanc fel corydd yn y Capel Brenhinol. Roedd yn rhaid i bob corydd yn y Capel Brenhinol hefyd cael lle mewn prifysgol, ac yn 1607 derbyniodd Tomkins gradd B.Mus. o Goleg Magdalen, Rhydychen.[4]
Gyrfa
golyguYm 1596 penodwyd Tomkins yn Organydd yng Nghadeirlan Caerwrangon. Y flwyddyn ganlynol, priododd Alice Patrick, gwraig weddw naw mlynedd yn hyn nag ef, yr oedd ei gŵr Nathaniel, a fu farw ym 1595, wedi bod yn rhagflaenydd Tomkins fel organydd Caerwrangon. Ganed unig fab Thomas, Nathaniel, yng Nghaerwrangon ym 1599, lle bu'n treulio gweddill ei fywyd ac yn tyfu i ddod yn gerddor parchus.
Roedd Tomkins yn adnabod Thomas Morley, un arall o ddisgyblion Byrd. Mae copi o lyfr Morley, Plaine and Easie Introduction to Practicall Musicke (1597) wedi ei lofnodi iddo wedi ei gadw. Ym 1601 cynhwysodd Morley madrigal gan Tomkins yn ei waith pwysig The Triumphs of Oriana.
Ym 1612, bu Tomkins yn goruchwylio'r gwaith o adeiladu organ newydd godidog gan Thomas Dallam, prif gynhyrchydd organau'r dydd, yng nghadeirlan Caerwrangon. Parhaodd i ysgrifennu anthemau pennill, a chyhoeddwyd yn y pendraw ym 1622 yn ei gasgliad o 28 madrigal Songs of 3, 4, 5 and 6 parts, gyda cherdd gyflwynol gan ei hanner frawd, John Tomkins (tua 1587-1638), a oedd erbyn hynny yn organydd Coleg y Brenin, Caergrawnt (yn ddiweddarach yn organydd St Paul's a'r Capel Brenhinol), gyda'r hwn y bu Thomas yn cadw perthynas agos a chariadus ag ef.
Tua 1603 cafodd Tompkins ei benodi yn Fonheddwr Allanol y Capel Brenhinol (Gentleman Extraordinary of the Chapel Royal). Roedd hyn yn swydd er anrhydedd, ond ym 1621 fe'i dyrchafwyd yn Fonheddwr Cyffrdin (Gentleman Ordinary) ac is organydd i'w gyfaill y prif organydd, Orlando Gibbons. Roedd y dyletswyddau cysylltiedig â'r swydd hon yn cynnwys teithiau rheolaidd rhwng Caerwrangon a Llundain. Bu Tomkins yn gwneud y teithiau hyd oddeutu 1639.
Ar farwolaeth y Brenin Iago VI ac I ym mis Mawrth 1625 roedd yn ddyletswydd i Tomkins, a bonheddwyr eraill y Capel Brenhinol i fod yn gyfrifol am gerddoriaeth angladdol Iago a cherddoriaeth coroni ei olynydd Siarl I. Bu'r tasgau hyn yn ormod i Gibbons, a fu farw o strôc yng Nghaergaint, lle'r oedd Siarl i fod i gwrdd â'i ddarpar briodferch, Henrietta Maria o Ffrainc, gan roi mwy o bwysau fyth ar Tomkins. Oherwydd y pla, cafodd y goroni ei gohirio hyd fis Chwefror 1626, gan roi amser i Tomkins gyfansoddi'r rhan fwyaf o'r wyth anthem a ganwyd yn y seremoni.[5]
Diwedd ei yrfa
golyguYm 1628 cafodd Tomkins ei benodi yn "Gyfansoddwr Cyffredinol Cerddoriaeth y Brenin" gyda thal blynyddol o £40 (tua £2 miliwn o ran gwerth dylanwadol i gymharu â 2017 [6]) fel olynydd i Alfonso Ferrabosco a fu farw. Ond tynnwyd cynnig y swydd yn ôl, wedi i fab Ferrabosco honni ei fod o wedi cael addewid i olynu ei dad.
Bu farw Alice, gwraig Tomkins, ym 1642, a chychwynnodd Rhyfel Cartref Lloegr yn yr un flwyddyn. Ymosodwyd ar Gaerwrangon yn gynnar yn y rhyfel a difrodwyd yr eglwys gadeiriol. Yn yr ymosodiad ar y gadeirlan cafodd organ Tomkins ei niweidio'n wael gan y Seneddwyr. Y flwyddyn ganlynol, cafodd tŷ Tomkins ger yr eglwys gadeiriol ei daro'n uniongyrchol gan ergyd canon, gan ei gwneud yn annrhigiadwy am gyfnod hir. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'i nwyddau cartref ac, yn ôl pob tebyg, nifer o'i lawysgrifau cerddorol. Tua'r adeg yma priododd Tomkins ei ail wraig Martha Browne, gweddw clerc lleyg Gadeirlan Caerwrangon.
Bu i wrthdaro pellach a gwarchae ym 1646 achosi difrod mawr i'r ddinas. Gyda'r côr yn cael ei ddiddymu a'r eglwys gadeiriol yn cau, trodd Tomkins ei ddawn at gyfansoddiad ei gerddoriaeth bysellfwrdd a chaneuon gorau. Ym 1647, ysgrifennodd can deyrnged i Thomas Wentworth, Iarll 1af Strafford, ac un arall er cof am William Laud, Archesgob Caergaint, y ddau wedi eu dienyddio yn yr 1640au, a'r ddau yn cael eu hedmygu gan Tomkins. Cafodd y Brenin Siarl ei ddienyddio ym 1649, ac ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, cyfansoddodd Tomkins, brenhinwr i'r carn, ei ardderchog Sad Pavan: for these distracted times. Bu farw ei ail wraig Martha tua 1653. Heb swydd a bellach yn 81 mlwydd oed, roedd Tomkins mewn anawsterau ariannol difrifol. Yn 1654 priododd ei fab Nathaniel a Isabella Folliott, gweddw gyfoethog, a aeth Thomas i fyw gyda nhw yn Martin Hussingtree, tua phedair milltir o Gaerwrangon. Diolchodd i’w merch yng nghyfraith trwy gyfansoddi ei galiard, The Lady Folliot's in her honour. Ddwy flynedd yn ddiweddarach bu farw a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Martin Hussingtree ar 9 Mehefin 1656.[7]
Gwaith
golyguYsgrifennodd a chyhoeddodd Tomkins nifer o fadrigalau. Yn eu plith roedd The Fauns and Satyrs Tripping, a gynhwyswyd yng nghasgliad Morley The Triumphs of Oriana (1601); Caneuon o 3,4,5 a 6 rhan (1622); 76 darn o gerddoriaeth i'r bysellfyrddau (organ, firdsinal, harpsicord), cerddoriaeth consort, anthemau a cherddoriaeth litwrgaidd.[8]
Roedd hefyd yn gyfansoddwr toreithiog o anthemau llawn ac anthemau pennill, gan ysgrifennu mwy na bron unrhyw gyfansoddwr Saesneg arall yn y 17g, ac eithrio (o bosib) William Child. Cafodd nifer o'i weithiau eu copïo'n gyfoes i'w ddefnyddio mewn mannau eraill. Sicrhawyd goroesiad ei gerddoriaeth gan eu cyhoeddi wedi iddo farw gan ei fab Nathaniel o dan y teitl, Musica Deo Sacra et Ecclesiae Anglicanae; neu Cerddi Ymroddedig i Anrhydedd a Gwasanaeth Duw, ac at Ddefnydd o Eglwysi Cadeiriol ac Eglwysi eraill Lloegr (William Godbid, Llundain: 1668). Mae Musica Deo Sacra yn cynnwys pum gwasanaeth, pum alaw salm a naw deg pedwar anthem, ac fe'i cyhoeddwyd mewn pum cyfrol un yr un ar gyfer Medius, Contratenor; Tenor; Bâs, a'r Pars Organica.
Cyfansoddiadau (rhanol)
golygu- Adieu, Ye City-Pris'ning Towers
- Alman
- Barafostus Dreame
- Clarifica me Pater
- Fancy for Two to Play
- Fantasia a 6 No.3
- Fantasia a 6 No.4
- The Fauns and Satyrs Tripping
- Galliard à 6
- A Ground
- I Heard a Voice from Heaven
- In Nomine
- Music Divine
- O, let me live!
- O, Yes! Has any Found a Lad
- Out of the Deep
- Pavan à 4 in F major
- Pavan à 5 in A minor
- Pavan à 5 in D minor
- Pavan à 5 in G major
- Pavan à 5 in F major
- Pavan à 5 in D minor
- Pavan and Galliard Earl Strafford
- Pavan and Galliard for 6 Viols
- Pavan Lord Canterbury
- Pavan
- Preludium
- Remember Me, O Lord
- Sad Paven for these Distracted Tymes
- See, See the Shepherds' Queen
- A Short Verse, MB 27
- Sing unto God
- Too Much I Once Lamented
- Ut re mi fa sol la
- A Verse of 3 parts
- 3 Verses
- Weep no more thou sorry Boy
- When David Heard That Absalom Was Slain
Disgyddiaeth
golyguBlwyddyn | Teitl | Artist |
---|---|---|
1989 | Cathedral Music | Thomas Tomkins; The Choir of St George's Chapel, Windsor Castle, Christopher Robinson, James Judd |
1991 | The Great Service | Tomkins; The Tallis Scholars, Peter Holman |
1992 | Englische Virginalmusik | Tomkins, Bull, Byrd, Gibbons, Farnaby; Gustav Leonhardt |
1994 | Complete Keyboard Music Vol.1 | Thomas Tomkins; Bernhard Klapprott |
1994 | For Two to Play | Mozart, Handel, J.C. Bach, Tomkins; Davitt Moroney, Olivier Baumont |
1995 | Consort Music for Viols and Voices / Keyboard Music | Thomas Tomkins |
1996 | Complete Keyboard Music Vol. 2 | Thomas Tomkins; Bernhard Klapprott |
1997 | Complete Keyboard Music Vol. 3 | Thomas Tomkins; Bernhard Klapprott |
1997 | Complete Keyboard Music Vol. 4 | Thomas Tomkins; Bernhard Klapprott |
1999 | Choral and Organ Works (Oxford Camerata feat. cond: Jeremy Summerly) | Thomas Tomkins |
2001 | Barafostus Dreame: Music for Harpsichord and Virginals | Thomas Tomkins; Carole Cerasi |
2007 | These Distracted Times | The Choir Of Sidney Sussex College, Cambridge, David Skinner |
2013 | English Royal Funeral Music | Purcell, Morley, Tomkins; Vox Luminis, Lionel Meunier |
2018 | The Passinge Mesures (Music Of The English Virginalists) | Mahan Esfahani - Bull, Byrd, Farnaby, Gibbons, Inglot, Tomkins |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Irving, J. (2009, October 08). Tomkins, Thomas (1572–1656), composer. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 22 Tachwedd 2018
- ↑ Encyclopaedia Britannica Thomas Tomkins ENGLISH COMPOSER AND ORGANIST adalwyd 22 Tachwedd 2018
- ↑ D.R.A. Evans: ‘The Life and Works of John Tomkins’, Welsh Music, 6/4 (1980), 56–62.
- ↑ Anthony Boden: Thomas Tomkins: The Last Elizabethan. Ashgate Publishing 2005. ISBN 0-7546-5118-5
- ↑ John Irving: The Instrumental Music of Thomas Tomkins, 1572–1656. Garland Publishing, New York 1989. ISBN 0-8240-2011-1
- ↑ Calculator - UK Inflation adalwyd 22 Tachwedd 2018
- ↑ Huray, P., Irving, J., & McCarthy, K. (2014, July 01). Tomkins family. Grove Music Online adalwyd 22 Tachwedd 2018
- ↑ Trafodion Cymdeithas y Cymrodorion 1 Ionawr 1931 The contribution of Welshmen to music adalwyd 22 Tachwedd 2018
- ↑ IMSLP - Cyfansoddiadau Tompkins adalwyd 22 Tachwedd 2018
- ↑ MusicBrainz Thomas Tomkins (1572 – 9 June 1656) adalwyd 22 Tachwedd 2018