Thomas Williams (Eos Gwynfa)
bardd
Bardd Cymraeg oedd Thomas Williams (tua 1769 – Tachwedd 1848), a adwaenir wrth ei enw barddol Eos Gwnfa (amrywiad Eos Gwynfa; hefyd Eos y Mynydd).
Thomas Williams | |
---|---|
Ganwyd | c. 1769 Sir Drefaldwyn |
Bu farw | 1848 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Roedd yn frodor o ardal Maldwyn, Powys ac yn enedigol o blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, lle y'i ganed tua'r flwyddyn 1769. Enillai ei damaid fel gwehydd yn ei gartref ym Mhontyscadarn, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, ond roedd yn fardd cynhyrchiol hefyd sy'n adnabyddus fel un o brif awduron carolau a chanu plygain ei oes. Bu farw yn 1848.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
golyguCyhoeddwyd sawl gyfrol o'i waith, yn cynnwys:
- Telyn Dafydd (1820). Mydryddiad o Salmau Dafydd.
- Ychydig o Ganiadau Buddiol (1824)
- Newyddion Gabriel (1825). Carolau.
- Manna'r Anialwch (1831)
- Mer Awen (1844)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Enid Roberts, Braslun o hanes llên Powys (Gwasg Gee, 1965), tud. 67; Richard Williams, Montgomeryshire Worthies (1894).