Llanfihangel-yng-Ngwynfa

pentref a chymuned ym Mhowys

Pentref hynafol, plwyf a chymuned, Powys, Cymru, yw Llanfihangel-yng-Ngwynfa.[1] Mae'n enwog fel cartref yr emynyddes Ann Griffiths.

Llanfihangel-yng-Ngwynfa
Mathpentrefan, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanfihangel Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod postSY22 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Gorwedd y pentref diarffordd yng ngogledd y sir ym mryniau Maldwyn ger tarddle Nant Alan, un o ffrydiau Afon Cain, tua hanner ffordd rhwng Llanwddyn i'r gorllewin a Llanfyllin i'r dwyrain. I gyfeiriad y de mae'r B4382 yn ei gysylltu â phentref Dolanog a Llanfair Caereinion.

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gantref Mechain. Mae'r eglwys yn un o sawl yng Nghymru a gysegrir i Sant Mihangel.

Cynaeafu gwair, Llanifhangel-yng-Ngwynfa
Dolwar Fach yn 1885

Tua milltir a hanner i'r gorllewin o Lanfihangel ceir Plasdy Llwydiarth, hen gartref y Fychaniaid gynt.

Rhed Llwybr Glyndŵr trwy'r bryniau i'r de o'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Pobl golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel-yng-Ngwynfa (pob oed) (467)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel-yng-Ngwynfa) (242)
  
52.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel-yng-Ngwynfa) (233)
  
49.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfihangel-yng-Ngwynfa) (44)
  
22.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Darllen pellach golygu