Thomas Williams (Gwilym Morganwg)
Bardd Cymraeg oedd Thomas Williams (20 Tachwedd 1778 – 13 Awst 1835), a adnabyddid wrth ei enw barddol Gwilym Morganwg.
Thomas Williams | |
---|---|
Ffugenw | Gwilym Morganwg, Gwilym Morgannwg |
Ganwyd | 20 Tachwedd 1778 Llanddeti |
Bu farw | 13 Awst 1835 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguGaned Gwilym Morganwg ym mhlwyf Llanddeti, Brycheiniog ond yn gynnar yn ei oes symudodd i Forgannwg i geisio gwaith. Bu'n byw ym mhentref Cefncoedycymer am gyfnod cyn symud i fyw yn nhref Pont-y-pŵl, Gwent. Yno dechreuodd gadw tafarn a llenydda gan wneud enw iddo'i hun yng nghylchoedd llenyddol y de.[1]
Gwaith llenyddol
golyguCyhoeddwyd enghreifftiau o'i gerddi mewn sawl blodeugerdd Gymraeg ond ni chyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth tan ar ôl ei farwolaeth, a hynny gan ei fab yn 1890. Cyfrannodd i lenyddiaeth wyddonol y cyfnod yn ogystal, yn cynnwys rhan o'r gwaith daearyddol Y Parthsyllydd (1815-16), ar y cyd â John Jenkins.[1]
Mae ganddo le yn hanes Gorsedd "Dderwyddol" Iolo Morganwg hefyd. Yn 1814 cafodd ef a Taliesin Williams, mab Iolo Morganwg, eu cyflwyno i gyfrinachau'r Orsedd gan Iolo ei hun. Roedd ganddo feddwl fawr o Iolo a chyfansoddodd gywydd er cof amdano a ddisgrifir fel un "godidog" gan y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Awen y Maen Chwyf (1890)