Thomas Williams Chance

gweinidog (B) a phrifathro coleg

Gweinidog a phrifathro coleg oedd Thomas Williams Chance (23 Awst 187222 Gorffennaf 1956)[1].

Thomas Williams Chance
Ganwyd23 Awst 1872 Edit this on Wikidata
Erwd Edit this on Wikidata
Bu farw22 Rhagfyr 1954 Edit this on Wikidata
Henffordd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, prifathro coleg Edit this on Wikidata

Ganwyd Thomas Williams ar 23 Awst 1872 yn fab i Thomas Chance (1844–1873) a Mary (g. Williams, 1829–1908) o Erwyd, Sir Frycheiniog. Mynychodd ysgol Penrhiw fel plentyn, ond pan oedd yn 11 oed, bu farw ei dad, ac aeth yn was fferm am gyfnod o 9 mlynedd er mwyn cynnal ei hun a'i deulu. Gwnaeth hyn yn ardal Erwyd yn gyntaf, cyn symyd ymhellach oddi cartref i ardal Cathedin.

Fe'i bedyddiwyd yn 15 oed yn Eglwys Heffsiba (B), Erwyd, ac anogwyd ef gan ei weinidog John Morgan i ddechrau pregethu ac ail-ymafael mewn addysg. Gwnaeth hynny am ddwy flynedd yn ysgol ramadeg David Christmas Lloyd, gweinidog yr Annibynwyr, yna yn ei gartref, Tŷ Hampton, Y Clas-ar-Wy, ac wedyn yng Ngholeg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Derbyniodd Radd Bagloriaeth anrhydedd dosbarth cyntaf yn yr Hebraeg yn 1898, gan ychwanegu gradd MA yn 1900 a gradd BD yn 1916. Yn dilyn ei radd gyntaf, fe'i ordeiniwyd yn weinidog ar eglwys Saesneg yn Stryd Fawr, Merthyr Tudful, yn 1899, ac erbyn 1904, roedd hefyd yn athro rhan-amser yng Ngholeg y Bedyddwyr gan ddarlithio ar Hanes yr Eglwys.

Ar ôl peth amser, daeth yn athro llawn-amser a swydd ysgrifennydd ariannol yn 1908, ac wedi marwolaeth John Morlais Davies yn Ebrill 1928, bu'n brifathro gweithredol y Coleg. Cyn cael sicrwydd o gael cadw'r swydd yn barhaol, rhaid oedd iddo ennill cefnogaeth mwyafrif o gynrychiolwyr yr eglwys yng Nghaerdydd, ond yn anffodus, y tro hwn, collodd y swydd i Thomas Phillips (1868–1936) o ddim ond pedair pleidlais, oherwydd ei ddiffyg Cymraeg yn ôl rhai. Pan fu farw Thomas Phillips yn 1936, fodd bynnag, a phenodwyd Chance i'r swydd, er y bu cryn ddadlau ynglŷn â hynny am fisoedd yn y cylchgrawn Seren Cymru. Daliodd ati fel pennaeth tan 30 Mehefin 1944, pan yr ymddeolodd a'i ddynodi'n brifathro emeritws. Bu farw Thomas Williams yn 1956.

Ffynonellau golygu

  • D. Mervyn Himbury, The South Wales Baptist College, 1807-1957 (Caerdydd, 1957), tt.78, 89ff.
  • Adroddiadau Blynyddol Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd, yn enwedig 1955, 7, 10-13;
  • Seren Cymru, 4 Mai, 28 Medi 1928, 5 Meh. 1936, 31 Rhag. 1954 a 7 Ion. 1955;
  • Dyddiadur a Llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru (1956), 114-5;
  • Baptist Handbook (1956), 322-3