Wsbecistan
Mae Wsbecistan, yn swyddogol Gweriniaeth Wsbecistan, yn wlad dirgaeedig yng Nghanolbarth Asia. Mae wedi'i hamgylchynu gan bum gwlad: Casachstan i'r gogledd, Cirgistan i'r gogledd-ddwyrain, Tajicistan i'r de-ddwyrain, Affganistan i'r de, a Tyrcmenistan i'r de-orllewin, sy'n ei gwneud yn un o ddim ond dwy wlad sydd wedi'u cloi ddwywaith ar y Ddaear, a'r llall yw Liechtenstein. Mae Wsbecistan yn rhan o'r byd Tyrcig, yn ogystal ag yn aelod o Sefydliad Gwladwriaethau Tyrcig. Wsbeceg sy'n cael ei siarad gan fwyaf gan yr Wsbeceg, a hi yw'r iaith swyddogol, tra bod Rwsieg a Tajiceg yn ieithoedd lleiafrifol arwyddocaol. Islam yw'r brif grefydd, ac mae'r mwyafrif o Wsbeciaid yn Fwslimiaid Sunni.
Gweriniaeth Wsbecistan O‘zbekiston Respublikasi, Ўзбекистон Республикаси (Wsbeceg) | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad |
---|---|
Prifddinas | Tashkent |
Poblogaeth | 34,915,100 |
Sefydlwyd | 1 Medi 1991 (Annibyniaeth oddi wrth yr Undeb Sofietaidd) |
Anthem | Anthem Genedlaethol Wsbecistan |
Pennaeth llywodraeth | Abdulla Nigmatovich Aripov |
Cylchfa amser | UTC+05:00, Asia/Samarkand, Asia/Tashkent |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wsbeceg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Asia |
Gwlad | Wsbecistan |
Arwynebedd | 448,978 km² |
Yn ffinio gyda | Casachstan, Cirgistan, Tajicistan, Affganistan, Tyrcmenistan |
Cyfesurynnau | 41°N 66°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Wsbecistan |
Corff deddfwriaethol | Oliy Majlis |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Wsbecistan |
Pennaeth y wladwriaeth | Shavkat Mirziyoyev |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Wsbecistan |
Pennaeth y Llywodraeth | Abdulla Nigmatovich Aripov |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $69,239 million |
Arian | Uzbekistani som |
Canran y diwaith | 11 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.2 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.727 |
Yr ymsefydlwyr cyntaf a gofnodwyd yn yr Wsbecistan fodern oedd nomadiaid Dwyrain Iran, a elwir yn Scythiaid, a sefydlodd deyrnasoedd yn Khwarazm, Bactria, a Sogdia yn yr 8-6g CC, yn ogystal â Fergana a Margiana yn y 3g CC – 6g OC.[1] Ymgorfforwyd yr ardal yn yr Ymerodraeth Achaemenaidd ac, a chafwyd cyfnod o gael ei rheoli gan Deyrnas Greco-Bactria ac yn ddiweddarach gan yr Ymerodraeth Sasanaidd, hyd at goncwest Mwslimaidd Persia yn y 7g. Trodd y rhan fwyaf o'r bobl at Islam. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd dinasoedd dyfu'n gyfoethog o Ffordd y Sidan, a daeth yn ganolfan i'r Oes Aur Islamaidd.
Dinistriwyd y llinach Khwarazmaidd leol gan oresgyniad Mongol yn y 13g a dilynwyd hyn gan Ymerodraeth Timurid yn y 14g. Ei phrifddinas oedd Samarcand, a ddaeth yn ganolfan wyddoniaeth o dan reolaeth Ulugh Beg a sefydlu'r Dadeni Timurid. Gorchfygwyd tiriogaethau y llinach Timurid gan Wsbeciaid Shaybanid yn y 16g.
Ymgorfforwyd Canol Asia yn raddol i Ymerodraeth Rwsia yn ystod y 19g, gyda Tashkent yn dod yn ganolfan wleidyddol Twrcistan Rwsia. Ym 1924, daeth Gweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Wsbecistan yn un o weriniaethau'r Undeb Sofietaidd. Datganodd annibyniaeth fel 'Gweriniaeth Wsbecistan' yn 1991.
Mae Wsbecistan yn dalaith seciwlar, gyda llywodraeth gyfansoddiadol lled-arlywyddol. Mae Wsbecistan yn cynnwys 12 rhanbarth (vilayat), Dinas Tashkent, ac un weriniaeth ymreolaethol, Karakalpakstan. Disgrifiwyd y wlad gan sawl sefydliad anllywodraethol fel "gwladwriaeth awdurdodaidd gyda hawliau sifil cyfyngedig". Er hyn, cafwyd diwygiadau cymdeithasol a rheolaethol sylweddol o dan ail arlywydd Wsbecistan, sef Shavkat Mirziyoyev, yn dilyn marwolaeth yr arlywydd cyntaf, Islam Karimov. Oherwydd y diwygiadau hyn, mae'r berthynas â gwledydd cyfagos Cirgistan, Tajikistan, ac Affganistan wedi gwella'n sylweddol.[2][3][4] Canfu adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn 2020 lawer o gynnydd tuag at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.[5]
Hawliau dynol
golyguMae sefydliadau hawliau dynol anllywodraethol, megis IHF, Human Rights Watch, Amnest Rhyngwladol, yn ogystal ag Adran Wladwriaeth yr Unol Daleithiau a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd, yn diffinio Wsbecistan fel "gwladwriaeth awdurdodaidd gyda hawliau sifil cyfyngedig" ("an authoritarian state with limited civil rights") a mynegwyd pryder mawr eu bod "yn torri bron pob hawl dynol sylfaenol" ar raddfa eang.[6] Yn ôl yr adroddiadau, y troseddau mwyaf cyffredin yw artitehio, arestio mympwyol, a chyfyngiadau ar ryddid yr unigolyn a grwpiau i ymwneud â chrefydd, lleferu a rhyddid y wasg, cysylltiad rhydd ac ymgynull yn grwpiau.
Adroddwyd hefyd bod sterileiddio menywod gwledig yn orfodol, a hyn wedi cael ei sancsiynu gan y llywodraeth.[7] Mae'r adroddiadau'n honni bod y troseddau'n cael eu cyflawni gan amlaf yn erbyn aelodau o sefydliadau crefyddol, newyddiadurwyr annibynnol, gweithredwyr hawliau dynol ac actifyddion gwleidyddol, gan gynnwys aelodau o'r gwrthbleidiau gwaharddedig. O 2015 ymlaen, roedd adroddiadau ar droseddau ar hawliau dynol yn Wsbecistan yn nodi bod troseddau'n dal i fynd rhagddynt heb unrhyw dystiolaeth o wella. Mae'r Freedom House (sefydliad dielw wedi'i leoli yn Washington, D.C.) wedi gosod Uzbekistan yn gyson ger gwaelod ei safle Rhyddid yn y Byd ers sefydlu'r wlad yn 1991. Yn adroddiad 2018, roedd Wsbecistan yn un o'r 11 gwlad waethaf am Hawliau Gwleidyddol a Rhyddid Sifil.[8]
Mae aflonyddwch sifil 2005 yn Uzbekistan, a arweiniodd at ladd cannoedd o bobl, yn cael ei ystyried gan lawer fel digwyddiad o bwys yn hanes cam-drin hawliau dynol yn Wsbecistan.[9][10][11] Mynegwyd pryder a gwnaed ceisiadau am ymchwiliad annibynnol i'r digwyddiadau gan yr Unol Daleithiau,[12] yr Undeb Ewropeaidd,[13] a'r Cenhedloedd Unedig.[14][15]
Amcangyfrifir bod 1.2 miliwn o gaethweision modern yn Wsbecistan, y rhan fwyaf ohonyn nhw'n gweithio yn y diwydiant cotwm. Honnir bod y llywodraeth yn gorfodi gweithwyr y wladwriaeth i ddewis cotwm yn ystod misoedd yr hydref.[16] Deellir fod benthyciadau Banc y Byd wedi’u cysylltu â phrosiectau sy’n defnyddio llafur plant ac arferion llafur gorfodol yn y diwydiant cotwm.[17]
Demograffeg
golyguPoblogaeth | |||
---|---|---|---|
Blwyddyn | Miliwn | ||
1950 | 6.2 | ||
2000 | 24.8 | ||
2021 | 34.1 | ||
2023 | 36.2 |
O 2022 ymlaen, roedd gan Wsbecistan y boblogaeth fwyaf allan o holl wledydd Canolbarth Asia. Mae ganddi 36 miliwn o ddinasyddion, sef bron i hanner cyfanswm poblogaeth y rhanbarth.[18] Mae poblogaeth Wsbecistan ar gyfartaledd yn ifanc iawn ac mae 23.1% o'i phobl dan 16 oed (amcangyfrif o 2020).[19] Yn ôl ffynonellau swyddogol, mae'r Wsbeciaid yn 84.5% o gyfanswm y boblogaeth. Yn 2021 roedd y grwpiau ethnig eraill yn cynnwys Rwsiaid 2.1%, Tajikiaid 4.8%, Kazakhiaid 2.4%, Karakalpakiaid 2.2% a Tatariaid 0.5%.[4]
Mae'r genedl yn 96% Mwslemaidd (Sunni yn bennaf, gyda lleiafrif yn Shi'a), 2.3% yn Uniongred Dwyreiniol ac 1.7% o grefyddau eraill. Mae Adroddiad Rhyddid Crefyddol Rhyngwladol Adran Talaith yr Unol Daleithiau, 2004 yn datgan bod 0.2% o'r boblogaeth yn Fwdhaidd (Coreaiaid ethnig). Roedd 94,900 o Iddewon yn Wsbecistan yn 1989[20] (tua 0.5 % o'r boblogaeth yn ôl cyfrifiad 1989), ond nawr, ers diddymu'r Undeb Sofietaidd, gadawodd y rhan fwyaf o Iddewon Canolbarth Asia y rhanbarth am yr Unol Daleithiau, yr Almaen, neu Israel. Arhosodd llai na 5,000 o Iddewon yn Uzbekistan yn 2007.[21]
Mae gan Uzbekistan gyfradd llythrennedd o 100% ymhlith oedolion hŷn na 15 oed (amcangyfrif 2019).[22]
Y disgwyliad oes yn Wsbecistan yw 75 mlynedd ar gyfartaledd. 72 mlynedd ymhlith dynion a 78 mlynedd ymhlith merched.[23]
Bwyd a choginio
golyguMae amaethyddiaeth leol yn dylanwadu ar fwyd Wsbecaidd; gan fod llawer iawn o ffermio grawn yn Wsbecistan; mae bara a nwdls yn bwysig ac mae bwyd Wsbecaidd wedi'i nodweddu gan "gyfoeth o nwdls". Mae cig oen yn boblogaidd oherwydd y digonedd o ddefaid yn y wlad ac mae'n rhan o nifer o brydau Wsbecaidd.[24]
Y Palov (neu'r plov) yw pryd unigryw a chenedlaethol Wsbecistan, prif gwrs a wneir fel arfer gyda reis, cig, moron a nionod, er nad oedd ar gael i bobl gyffredin tan y 1930au. Mae yna lawer o amrywiadau rhanbarthol o'r pryd hwn. Yn aml defnyddir y braster a geir ger cynffon y ddafad, y qurdiuq. Yn y gorffennol, roedd coginio palov yn bryd ar gyfer dynion, ond roedd y Sofietiaid yn caniatáu i fenywod ei goginio hefyd.[25]
Mae seigiau cenedlaethol nodedig eraill yn cynnwys shorpa, sef cawl wedi'i wneud o ddarnau mawr o gig brasterog (cig dafad fel arfer), a llysiau ffres;[26] norin a laghman, seigiau nwdls y gellir eu gweini yn y cawl neu fel prif gwrs;[27] manti, chuchvara, a somsa, pocedi o does wedi'u stwffio yn fwyd neu'n brif gwrs; dimlama, stiw cig a llysiau; a chebabs amrywiol, a wasanaethir fel arfer fel prif gwrs.
Te gwyrdd yw'r diod poeth cenedlaethol a yfir trwy gydol y dydd; mae caffis te (y chaikhanas) o bwysigrwydd diwylliannol a chymdeithasol,[28] ond mae te du yn cael ei ffafrio yn Tashkent. Mae te bob amser yn cyd-fynd â phryd o fwyd, ond mae hefyd yn ddiod a gynigir yn awtomatig i bob gwestai.[29] Mae Ayran, diod iogwrt oer, yn boblogaidd yn yr haf.[30]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pereltsvaig, Asya (25 Chwefror2011). "Uzbek, the penguin of Turkic languages". Languages of the World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 November 2021. Cyrchwyd 26 November 2022. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Lillis, Joanna (3 October 2017). "Are decades of political repression making way for an 'Uzbek spring'?". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 December 2017. Cyrchwyd 19 November 2017.
- ↑ "Uzbekistan: A Quiet Revolution Taking Place – Analysis". Eurasia Review. 8 December 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2017. Cyrchwyd 8 December 2017.
- ↑ "The growing ties between Afghanistan and Uzbekistan – CSRS En". CSRS En. 28 Ionawr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 December 2017. Cyrchwyd 25 December 2017.
- ↑ "Uzbekistan". UN Department of Economic and Social Affairs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 November 2021. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ IHF,"International Helsinki Federation for Human Rights". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ionawr 2010. Cyrchwyd 9 Chwefror2016. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Antelava, Natalia (21 December 2012). "Tweets from Gulnara the dictator's daughter". New Yorker. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Ionawr 2013.
- ↑ "Uzbekistan". Freedom House. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror2018. Cyrchwyd 23 Chwefror2018. Check date values in:
|access-date=, |archivedate=
(help) - ↑ Thomas, Jeffrey (26 Medi 2005). "Freedom of Assembly, Association Needed in Eurasia, U.S. Says". USINFO.STATE.GOV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 April 2007. Cyrchwyd 22 Ionawr 2008.
- ↑ McMahon, Robert (7 Mehefin 2005). "Uzbekistan: Report Cites Evidence Of Government 'Massacre' In Andijon – Radio Free Europe/Radio Liberty/Radio Liberty/Radio Liberty". Radio Free Europe/Radio Liberty. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2010. Cyrchwyd 2 Mai 2010.
- ↑ "Uzbekistan: Independent international investigation needed into Andizhan events". Amnesty International. 23 Mehefin 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 October 2007. Cyrchwyd 2 Mai 2010.
- ↑ Labott, Elise (18 Mai 2005). "Pressure for Uzbek violence probe". edition.cnn.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2021. Cyrchwyd 5 Ionawr 2021.
- ↑ Donovan, Jeffrey (8 April 2008). "Uzbekistan: UN, EU Call For International Probe Into Violence". Radio Free Europe/Radio Liberty. Cyrchwyd 5 Ionawr 2021.
- ↑ "Annan: Uzbekistan rejects inquiry". www.aljazeera.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2021. Cyrchwyd 5 Ionawr 2021.
- ↑ "OSCE Chairman repeats calls for an investigation into Andijan events following OSCE/ODIHR report". osce.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2021. Cyrchwyd 5 Ionawr 2021.
- ↑ "Forced Cotton-Picking Earns Uzbekistan Shameful Spot In 'Slavery Index'". rferl.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ionawr 2017. Cyrchwyd 14 Ionawr 2017.
- ↑ "Uzbekistan: Forced Labor Linked to World Bank". Human Rights Watch. 27 Mehefin 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Uzbekistan population surpasses 36 million" (yn Saesneg). ashkenttimes.uz. 9 December 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 December 2022. Cyrchwyd 12 December 2022.
- ↑ "Demographic situation in the Republic of Uzbekistan". The State Committee of the Republic of Uzbekistan on statistics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 November 2019. Cyrchwyd 28 Ionawr 2011.
- ↑ World Jewish Population 2001 (PDF). American Jewish Yearbook. 101. 2001. t. 561. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-12-06. Cyrchwyd 2024-10-28.
- ↑ World Jewish Population 2007 (PDF). American Jewish Yearbook. 107. 2007. t. 592. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-03-26. Cyrchwyd 2024-10-28.
- ↑ "Uzbekistan Adult literacy rate, 1960-2021".
- ↑ "Islam Karimov: Uzbekistan president's death confirmed". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2016. Cyrchwyd 4 Medi 2016.
- ↑ "Mutton from Central Asia". Pilot Guides (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ Buell, Paul David; Anderson, Eugene N.; Moya, Montserrat de Pablo; Oskenbay, Moldir, gol. (2020). Crossroads of Cuisine: The Eurasian Heartland, the Silk Roads and Food. BRILL. ISBN 9789004432109. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2022.
- ↑ "Uzbek shurpa – one of the most popular dishes in the Uzbek cuisine". www.people-travels.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ "10 Most Popular Foods You Have To Eat In Uzbekistan (2019)". uzwifi.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Guide to Uzbekistan Tea Traditions". TeaMuse. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Tea traditions in Uzbekistan". uzbek-travel.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Uzbek sour-milk products – indelible dishes of the Uzbek dastarkhan". www.people-travels.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2021.