Tim Benjamin
Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a gellir ei ddileu, o ganlyniad. Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. |
Athletwr o Gymru yw Timothy Benjamin (ganwyd 2 Mai 1982, Caerdydd) sy'n arbenigo fel rhedwr 400 medr. Fel glaslanc, hyfforddwyd gan Jock Anderson, a bu'n ymarfer yn yr un grŵp a Christian Malcolm. Symudodd i fyw i Slough lle cafodd ei hyfforddi gan Tony Lester; roedd Marlon Devonish ymysg ei bartneriaid ymarfer yno.
Tim Benjamin | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1982 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sbrintiwr |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 76 cilogram |
Chwaraeon |
Enillodd nifer o deitlau iau, gan gynnwys ym Mhencampwriaethau Athletau Iau y Byd ym 1999. Yn fuan wedyn, dechreuodd ganolbwyntio ar y ras 400 medr, a dewiswyd ef fel rhan o dim ras gyfnewid ar gyfer Pencampwriaethau Athletau'r Byd yn Edmonton, Canada yn 2001.
Erbyn 2002, roedd wedi sefydlu ei hun fel un o athletwyr gorau Prydain, gan ennill y deitl Prydainig AAA, a rhedeg fel rhan o sgwad llwyddiannus Prydain yn y Cwpan Ewropeaidd. Enillodd fedal arian fel aelod o dîm Cymru yn y ras gyfnewid 4x400m yng Ngemau'r Gymanwlad ym Manceinion yn 2002 (gyda Iwan Thomas, Jamie Baulch a Matthew Elias). Roedd y canlyniad yn un dadleuol rhwng yr athletwyr eu hunain yn ogystal a'r swyddogion a oedd yn dyfarnu. Yr un flwyddyn, anillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Athletau Ewropeaidd Odan 23 yng Ngwlad Pŵyl.
Cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynnol yng Ngemau Olympaidd 2044 yn Athen. Daeth yn bumed ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2005, a chweched ym Mhencampwriaethau Ewrop 2006. Bu rhaid iddo dynnu allan oherwydd anafiad o Gemau'r Gymanwlad ym Melbourne (2006), lle disgwylwyd iddo fod yn heriwr cryf dros fedal aur.
Ym Mhencampwriaethau Athletau Ewropaidd 2006 yn Gothenburg, enillodd fedal arian yn y rag gyfnewid 4x400m ynghyd â Robert Tobin, Rhys Williams a Graham Hedman, mewn amser o 3:01.63. Fe orffenodd yn chweched yn y rownd derfynol o'r gystadleuaeth unigol.
Ar ddiwedd 2006, datganodd y byddai'n dychwelyd i fyw i Gaerdydd i gael ei hyfforddi gan Colin Jackson, ynghyd â'i gyd-Gymro Rhys Williams a oedd hefyd am symud yn ôl o Loughborough.
Priododd Benjamin â'r athletwraig Natalie Lewis ym mis Tachwedd 2007.