Colin Jackson
Cyn-athletwr sbrint a ras glwydi o Gymru yw Colin Ray Jackson CBE (ganwyd 18 Chwefror 1967). Ganwyd Jackson yng Nghaerdydd, a daw o dras Jamaicaidd, Maroon, Taino (Americanwyr brodorol), ac Albanaidd. Wedi ymddeol fel athletwr gweithiodd fel sylwebydd chwaraeon, ar y BBC yn bennaf. Daliodd record y byd ras clwydi 110 metr rhwng 1993 a 2006. Ef yw deilydd presennol record y byd ras glwydi 60 metr a deilydd record ras glwydi 110 metr Gemau'r Gymanwlad.[1]
Colin Jackson | |
---|---|
Ganwyd | Colin Ray Jackson 18 Chwefror 1967 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 182 centimetr |
Pwysau | 75 cilogram |
Gwobr/au | CBE |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Gyrfa athletau
golyguMynychodd Jackson Ysgol Uwchradd Llanedeyrn lle bu'n chwarae pêl-droed a chriced dros y sir, a rygbi'r undeb a pêl-fasged dros yr ysgol.
O dan orychwyliaeth ei ffrind a'i hyffoddwr, Malcolm Rodger Arnold, dechreuodd ei yrfa fel athletwr decathlon addawol cyn newid i redeg y ras glwydi uchel. Yn Enillodd fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad 1986 a medal arian yn y ras glwydi 110 metr yng Ngemau Olympaidd 1988 tu ôl i Roger Kingdom. Byddai ei yrfa fel athletwr yn para 15 mlynedd, a'r deg olaf fel deilydd record y byd. Bu'n Bencampwr y Byd ddwywaith, Pencampwr y Gymanwlad ddwywaith ac yn Bencampwr Ewropeaidd bedair gwaith ond dyma'r unig fedal Olympaidd iddo erioed ennill. Roedd wedi ei anafu pan redodd y ras glwydi 110 metr yng Ngemau Olympaidd 1992 ac felly ni fedrodd orffen yn uwch na'r seithfed safle, daeth yn bwedwerydd yng Ngemau Olympaidd 1996, ac yn bumed yn 2000.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 60 Metres Hurdles Records. IAAF. Adalwyd ar 2009-04-04.
Llyfryddiaeth
golygu- Colin Jackson: The Autobiography (BBC Books, 2003)
- Life’s New Hurdles, cyfres Stori Sydyn 2008, Accent Press, ISBN 9781906125936
Dolenni allanol
golygu- Proffil IAAF Colin Jackson Archifwyd 2012-08-04 yn y Peiriant Wayback
- Bywgraffiad Colin Jackson, olympics.org.uk Archifwyd 2010-02-04 yn y Peiriant Wayback
- Proffil 'Power o f10' Colin Jackson
- Colin Jackson - athlete from Cardiff, BBC Archifwyd 2012-07-19 yn archive.today
- Colin Jackson, Who Do You Think You Are?
- Biography of Colin Jackson, Sunday Life
- Proffil Colin Jackson, londonspeakerbureau.co.uk
- Bywgraffiad ar wefan ei asiant