Tim Hetherington
cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Birkenhead yn 1970
Ffoto-newyddiadurwr a gwneuthurwr ffilm o Loegr[1] oedd Timothy Alistair Telemachus Hetherington[2] (5 Rhagfyr 1970 – 20 Ebrill 2011).[3] Astudiodd ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaerdydd.[4] Enillodd wobr Ffotograff y Flwyddyn gan y World Press ym 1997.[5] Cyd-gyfarwyddodd y ffilm ddogfen Restrepo (2010) am filwyr Americanaidd yn Rhyfel Affganistan gyda Sebastian Junger, a gafodd ei henwebu am Oscar.[6] Cafodd Hetherington a'r ffotograffydd Chris Hondros eu lladd wrth eu gwaith ym Misrata yn ystod Rhyfel Cartref Libya.[7]
Tim Hetherington | |
---|---|
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1970 Penbedw |
Bu farw | 20 Ebrill 2011 Misrata |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gohebydd rhyfel, ffotograffydd, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, ffotonewyddiadurwr, newyddiadurwr, ffotografydd rhyfel |
Blodeuodd | 2011 |
Adnabyddus am | Restrepo |
Partner | Idil Ibrahim |
Gwobr/au | World Press Photo of the Year |
Gwefan | http://www.timhetherington.com |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Roedd gan Hetherington ddinasyddiaeth Brydeinig ac Americanaidd: (Saesneg) 2 journalists are first American deaths in Libya. CBS (20 Ebrill 2011). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013. "Hetherington, who held dual U.S.-U.K. citizenship, and Hondros were veteran war photographers who had seen heavy fighting in several other conflicts."
- ↑ (Saesneg) Levy, Jon (27 Ebrill 2011). Tim Hetherington: Photojournalist and film-maker whose award-winning reportage exposed the human cost of war. The Independent. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Brabazon, James (21 Ebrill 2011). Tim Hetherington obituary. The Guardian. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Fenton, Ben a Pickford, James (21 Ebrill 2011). Obituary:Tim Hetherington. Financial Times. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Hughes, Stuart (18 Ionawr 2013). Tim Hetherington, his life and death. BBC. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Obituary: Tim Hetherington. The Daily Telegraph (21 Ebrill 2011). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Bodies of two photographers killed in Libya arrive in Benghazi. CNN (22 Ebrill 2011). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.