Timpani

Math o offeryn taro cerddorol yw timpani (/ˈtɪmpəni/)[1]  (timps, yn anffurfiol) neu tympan (er y gall tympan gyfeirio at fathau eraill o ddrymiau, gan gynnwys tambwrîn). Mae wedi ei wneud trwy bilen sy'n cael ei alw'n 'ben' ac sydd wedi'i ymestyn dros bowlen fawr sy'n draddiadol wedi'i gwneud o gopr yn wreiddiol.  Timpani pedal yw'r math sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf erbyn hyn, a gall chwaraewyr medrus ei thiwnio yn gyflym a chywir gan ddefnyddio pedal droed. Mae'r timpani yn cael ei chwarae trwy daro'r pen gyda ffon bwrpasol sy'n cael ei alw'n 'ffon' neu 'ordd'.

Standard timpani setup.jpg
Data cyffredinol
Mathseparate bowl drums, pitched percussion instrument Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sŵn timpani

Esblygodd y timpani dros amser o fod yn ddrymiau milwrol i un o brif offerynau cerddorfa glasurol erbyn diwedd y 18g. Heddiw, maent yn cael eu defnyddio mewn sawl math o ensemble, gan gynnwys seindyrf cyngerdd, seindyrf ymdeithiol, cerddorfeydd, a hyd yn oed mewn rhai bandiau roc.

Gair Eidaleg lluosog am 'timpano' yw timpani. Prin y defnyddir y gair unigol hwnnw, a bydd sawl timpani yn aml yn cael eu galw'n 'timpanis'. Timpanydd yw'r enw a roir i gerddor sy'n chwarae'r timpani.

CyfeiriadauGolygu