Tambwrîn
Offeryn cerddorol syml a chynnar yw'r tambwrîn a elwir hefyd weithiau yn tambwrdd. Daw o'r Ffrangeg drwy'r Saesneg, tambourine. Gall tabwrdd hefyd gyfeirio at ddrwm bychan (heb glychau) a elwir yn tabor yn Ffrangeg.
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | mistuned percussion instrument, single-skin frame drums without handle |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cenir y tabwrdd fel rheol fel ychwanegiad i offerynnau eraill megis gitâr a hefyd drymiau mwy datblygedig. Yn aml cenir y tabwrdd gan ganwr mewn grŵp neu fand pop neu werin.
Gwneithuriad
golyguYn draddodiadol bydd gan y tabwrdd groen anifail (llo neu afr) wedi ei ymestyn dros ffrâm crwn a chlychau neu symbalau bychain wedi eu cynnwys tu fewn i'r ffrâm bren hwnnw. Bellach defnyddir croen artiffisial a gwneir y ffrâm fel rheol o blastig. Yn ogystal â defnydd cerddorol fe ddefnyddir y tabwrdd hefyd mewn perfformiadau gymnasteg a dawns er mwyn creu effaith a dod ag amrywiaeth.
Amrywiaethau rhanbarthol
golyguCeir amrywiaethau o'r tabwrdd ar draws y byd gan ei fod yn un o'r offerynnau symlaf a chynharaf gan ddynol ryw ac yn hawdd i'r gyhyrchu.
- Pandero - drwm Basgeg. Gelwir yr offeryn yn Pandeiro (Portiwgaleg), tambour de basque (Ffrangeg), tamburello basco (Eidaleg).[1]
- Tamborí - drwm Catalaneg un llaw â llaw ddwbl, wedi'i chwarae ar y cyd â'r flabiol gan un chwaraewr (y Tambourinaire) yn y Cobla, Capel Sardana.
- Tamburello - a ddefyddir yn nhraddodiad canu gwerin Yr Eidal.
- Riq - tabwrdd yn y gwledydd Arabaidd,
- Daf - Iran
- Daria - yw'r gair mewn sawl iaith yng Nghanolbarth Asia.
- Pandeiro - yn offeryn bwysig yng ngherddoriaeth werin Brasil.
Arddull canu'r tambwrîn
golyguGellir taro'r tambwrîn â'r bysedd, cledr y llaw, dwrn neu ffyn. Mewn dawnsfeydd, mae'r tambwrîn yn aml yn cael ei daro yn erbyn y penelin neu'r pen-glin. Yn ogystal, gellir cynhyrchu cylch sain hirach yn ogystal â'r cylch clampio trwy ysgwyd neu drwy rwbio gyda'r baw dros y croen.
Tambwrîn mewn cerddoriaeth Gymraeg
golyguGwneir defnydd o'r tambwrîn mewn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg ers degawdau. Byddai nifer o grwpiau cynnar y Sîn Roc Gymraeg yn defnyddio'r offeryn syml a rhad er mwyn ychwanegu at naws y gerddoriaeth.
Etymoleg
golyguBenthyciad o'r Saesneg Canol, "tabour", neu’n uniongyrchol o’r Hen Ffrangeg yw "tabwrdd" gyda'r -dd ar diwedd y gair o dan ddylanwad y gair "bwrdd".[2] gan roi'r lluosog "tabyrddau". Mae'n golygu 'drwm bychan' ond gall hefyd olygu tambwrîn.
Daw'r gair "tambwrîn" o'r bychanig Ffrengig o tambour, Tambourine, "drwm", o'r Arabeg ṭambūr.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Duden online
- ↑ tabwrdd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.
- ↑ W. H. Worrell, "Notes on the Arabic Names of Certain Musical Instruments", Journal of the American Oriental Society 68:1 (Ionawr–Mawrth 1948), tt.66–8