Tirlithriadau Sierra Leone, 2017

Cyfres o lifogydd dinistriol o ganlyniad i dridiau o law trwm oedd achos tirlithriadau yn Sierra Leone ar fore 14 Awst 2017. Cwympodd dir lleidiog yn y brifddinas Freetown a'r cyrion yn Ardal y Gorllewin, gan chwalu rhai adeiladau a gorchuddio eraill. Llithrodd y mwd yn oriau mân y bore, ac felly cafodd nifer o bobl eu dal yn eu tai tra'n cysgu. Un o'r ardaloedd i gael eu taro waethaf oedd Regent, maestref fynyddig i'r dwyrain o Freetown, pan ddymchwelodd y bryniau o'i chwmpas.

Tirlithriadau Sierra Leone, 2017
Enghraifft o'r canlynolLlifogydd, tirlithriad Edit this on Wikidata
Dyddiad14 Awst 2017 Edit this on Wikidata
Lladdwyd312 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd14 Awst 2017 Edit this on Wikidata
LleoliadFreetown Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lleoliad Ardal y Gorllewin yn Sierra Leone.

Erbyn diwedd yr wythnos, cyfrifwyd o leiaf 400 o farwolaethau, ac hyd at 600 yn dal ar goll.[1] Collodd mwy na 3000 o bobl eu cartrefi, a chafodd cannoedd o adeiladau eu difrodi neu eu difetha'n llwyr. Wrth i'r glaw barhau bu pryder am dirlithriad arall, a gorchmynodd y llywodraeth i drigolion un llethr o gwmpas Freetown i adael eu cartrefi.

Digwyddodd y drychineb yn ystod tymor glawogydd arbennig o wlyb, a gwnaed yn waeth gan uchder tir isel yr ardal ac isadeiledd gwael, yn enwedig y carthffosydd. Cafodd rhai o'r cyrff eu llusgo i ganol y môr oddi ar arfordir y wlad.[2]

Cyfeiriadau golygu