Titus Lewis
Roedd Titus Lewis (21 Chwefror 1773 - 1 Mai 1811) yn weinidog yr efengyl yn enwad y Bedyddwyr Neilltuol ac yn awdur nifer o lyfrau.[1]
Titus Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 21 Chwefror 1773 Cilgerran |
Bu farw | 1 Mai 1811 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor |
Cefndir
golyguGanwyd Lewis yng Nghilgerran Sir Benfro yn ail fab i Thomas Lewis a Martha Evans. Roedd Thomas Lewis yn grydd wrth ei waith a hefyd yn gwasanaethu fel gweinidog i'r Bedyddwyr Neilltuol yng Nghapel Cilforwyr.[2]
Teulu
golyguWedi bod yn gweithio am gyfnod fel crydd gyda'i dad priododd Lewis Elizabeth Harvard, aelod llewyrchus o Eglwys Bedyddwyr y Porth tywyll yng Nghaerfyrddin ar 20 Tachwedd 1800. Rhoddodd y briodas annibyniaeth ariannol sylweddol iddo. Bu iddynt chwech o blant ond bu farw tri ohonynt yn eu plentyndod.[2]
Gyrfa
golyguCafodd Lewis ei fedyddio 1 Gorffennaf 1794 mewn afon ger chwaer eglwys Cilforwyr, Capel Blaenywaun, Llandudoch. Dechreuodd pregethu yn fuan wedyn ym mis Rhagfyr 1794. Ar ôl i Blaenywaun ffurfio cynulleidfa ar wahân i Gilforwyr gwahoddwyd Lewis i ddod yn weinidog arni gan gael ei ordeinio ar 24 Ionawr 1798. Wedi ei briodas symudodd i fyw i gartref ei wraig yng Nghaerfyrddin a chymerodd cyfrifoldeb am gynulleidfa'r Porth tywyll yn ychwanegol i'w weinidogaeth ym Mlaenywaun. Tra'n weinidog yng Nghaerfyrddin prynodd tir ar gyfer adeiladu capel newydd yn y dref sef Capel y Tabernacl, a agorwyd ym 1812 blwyddyn ar ôl ei farwolaeth.[3]
Gyrfa lenyddol
golyguCofir am Lewis yn bennaf am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gristionogol. Roedd yn awdur nifer o emynau. Mae dau ohonynt yn parhau yn boblogaidd mewn canu cynulleidfaol hyd heddiw sef Henffych i enw Iesu Gwiw (Caneuon Ffydd rhif 304) a Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb (Caneuon Ffydd rhif 323).[4]
|
|
Ym 1806 cyhoeddodd cylchgrawn a bwriadwyd i ymddangos yn chwarterol Y Drysorfa Efangylaidd ond dim ond 2 rifyn daeth o'r wasg. Cyhoeddodd nifer o lyfrau a phamffledi gan gynnwys
- Mawl i'r Oen a laddwyd, sef, Pigion o hymnau, perthynol i addoliad cyhoeddus : wedi eu casglu o waith yr awdwyr hynotaf yn yr oes bresennol.
- Alarwm i fyd ac eglwys, neu, farwnad, er coffadwriaeth am George Richard ac Eleanor Richard ei wraig, a’u plentyn bach, ac Elizabeth Evans, Thomas Nicholas a David Joseph, oll o Landydoch. Y rhai a gollodd eu bywydau ar y môr mewn ystorm; gerllaw Sir Fôn, ar nos Iau, Hydref 28, 1802. George Richard a’i wraig, ac Elizabeth Evans, oeddent aelodau hardd yn eglwys y Bedyddwyr ym Mlaenywaun; ymadawsant er galar i lawer o’u cydnabod.
- Hanes wladol a chrefyddol Prydain Fawr : o'r amser y daeth y Brutaniaid i wladychu iddi gyntaf hyd yn bresennol.
- Catecism y Bedyddwyr Neillduol, mewn ffordd o ofyniadau ac attebion, wedi ei gasglu er hyfforddiad i ieuengctyd Cymru, yn egwyddorion ac ymarferiadau y grefydd Grist'nogol : gyd a phrofiadau ysgrythurol : at ba un yr ychwanegwyd ychydig o gyfarwyddiadau i ddysgu darllen Cymraeg
- Grawn-sypiau Canaan : hymnau newyddion heb fod yn argraphedig o'r blaen
- Traethawd byr, eglur ac ysgrythurol ar fedydd : lle y mae'r ordinhad sanctaidd yn cael ei gosod allan o ran ei sefydliad, ei deiliaid, ei dull, ei dyben a'i pharhad; ynghyd â rhwymau credinwyr i roddi ufudd-dod iddi
- Taenelliad babanod o ddynion, ac nid o Dduw, neu, Attebiad i lyfr Mr. Peter Edwards, a elwir yn Cymraeg "Bedydd yn gyfarchiad i'r trochwyr ac i daenellwyr babanod"
- Hanes tiriad y Ffrancod yn Mhencaer, yn agos i Abergwaen, Swydd Benfro, ar Dydd Mercher, Chwefror 22, 1797
- A Welsh-English dictionary : = Geirlyfr Cymraeg a Saesneg : yr hwn sydd yn cynnwys y'nghylch deugain mil o eiriau Cymraeg, a rhan-ymadrodd i bob un o honynt, ac amrywiol o eiriau Saesneg pridol gyferbyn ́hwynt : hefyd, arwyddocaad geiriau anghyfiaith yn yr ysgrythyr lan : a pha ran o honi y maent hwy, ac amrywiol o rai ereill, i'w cael / wedi ei gasglu allan o'r geirlyfrau, hanes-lyfrau, a'r mynecyddion goreu a diweddaraf
Marwolaeth
golyguBu farw yng Nghaerfyrddin o'r diciâu yn 38 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn y bedd cyntaf i'w cloddio yng Nghapel y Tabernacl, Caerfyrddin.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "LEWIS, TITUS (1773 - 1811), gweinidog Bedyddwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-08-27.
- ↑ 2.0 2.1 "Lewis, Titus (1773–1811), Particular Baptist preacher and author - Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-16607. Cyrchwyd 2019-08-27.
- ↑ Owen, D. Huw. (2005). Capeli Cymru. Delyth, Marian. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. t. 58. ISBN 0862437938. OCLC 62890952.
- ↑ Morgans, Delyth G. (2006). Cydymaith caneuon ffydd. [Caernarfon]: Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. t. 602. ISBN 9781862250529. OCLC 123536494.