Grŵp o gantorion lled-werin ydy'r Tocsidos Blêr sy'n tarddu o ardal Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych. Mae'r grŵp wedi ymddangos ar Noson Lawen, S4C a nifer o gyngherddau a gwyliau led-led Cymru.[1] Mae enw'r grwp yn cyfeirio at un o linellau'r gân 'Brenin y Sêr' gan Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain.

Y Tocsidos Blêr yn canu yng Ngŵyl Tegeingl, 2010.

Ymhlith aelodau'r grŵp mae: Dafydd Roberts, Eirwyn Edwards, Ifor Rhys Phillips a Dyfan Phillips.

Bu'r Tocsidos yn brysur yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 yn llansio eu sengl 'Tafarn Lôn Cariadon'. Ceir dwy gân wreiddiol ar y sengl wedi eu cyfansoddi gan Eirwyn Edwards.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Radio Times Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 25/11/2012.