Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 ar 3 - 10 Awst 2013 ger tref Dinbych.[2]
← Blaenorol | Nesaf → | |||
Yr Orsedd yn paratoi i fynd i'r pafiliwn ar gyfer Seremoni'r Gadair (neb yn deilwng) | ||||
- |
||||
Lleoliad | Tir Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych | |||
Cynhaliwyd | 3 - 10 Awst 2013 | |||
Archdderwydd | Christine James | |||
Daliwr y cleddyf | Robin o Fôn | |||
Cadeirydd | John Glyn Jones | |||
Llywydd | Euryn Ogwen Williams | |||
Nifer yr ymwelwyr | 153,606 [1] | |||
Enillydd y Goron | Ifor ap Glyn | |||
Enillydd y Gadair | Neb yn deilwng | |||
Gwobr Daniel Owen | Bet Jones | |||
Gwobr Goffa David Ellis | Eleri Owen Edwards | |||
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn | Elen Gwenllian | |||
Gwobr Goffa Osborne Roberts | Joshua Owain Mills | |||
Gwobr Richard Burton | Steffan Parry | |||
Y Fedal Ryddiaith | Jane Jones Owen | |||
Medal T.H. Parry-Williams | Dorothy Jones | |||
Y Fedal Ddrama | Glesni Haf Jones | |||
Dysgwr y Flwyddyn | Martyn Croydon | |||
Tlws y Cerddor | Ieuan Wyn | |||
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts | Joshua Mills | |||
Medal Aur am Gelfyddyd Gain | Josephine Sowden | |||
Medal Aur am Grefft a Dylunio | Theresa Nguyen | |||
Gwobr Ifor Davies | Iwan Bala | |||
Gwobr Dewis y Bobl | Theresa Nguyen | |||
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc | Becca Voelcker | |||
Medal Aur mewn Pensaernïaeth | Penseiri John Pardey | |||
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth | Joe Travers-Jones | |||
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg | Alwyn R. Owens | |||
Gwefan | www.eisteddfod.org.uk |
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Lleisiau | Atal y wobr | |
Y Goron | Terfysg | "Rhywun Arall" | Ifor ap Glyn |
Y Fedal Ryddiaith | Gwe o Glymau Sidan | "Sidan" | Jane Jones Owen |
Gwobr Goffa Daniel Owen | Craciau | "Seiriol Wyn" | Bet Jones |
Paratoi
golyguTarged y Gronfa Leol oedd £300,000 ac erbyn wythnos yr Eisteddfod, roedd y Gronfa wedi pasio £330,000.[3]
Cyngherddau'r Pafilwin
golyguRoedd y cyngerdd agoriadol yn deyrnged i gyfansoddwr lleol: Robat Arwyn ac ymhlith y perfformwyr roedd Rhys Meirion a Chôr Rhuthun. Ar y nos Sadwrn bu Côr yr Eisteddfod yn perfformio'r Meseia gan Handel a bu Elin Manahan Thomas, Gwyn Hughes Jones, Leah-Marian Jones a Gary Griffiths yn cymryd rhan gyda Nicholas Kraemer yn arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Noson Lawen oedd ar y nos Lun. Amrywiodd pris y tocynnau i'r cyngherddau fin nos rhwng £10 ac £19 yr oedolyn a'r pris i'r maes yn £18 i oedolyn.[4]
Y Lle Celf
golyguThema'r Lle Celf oedd Ysbyty Meddwl Dinbych.
Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg
golyguRoedd oddeutu 40 o unedau gwahanol o fewn y pafiliwn, gyda "cansar" yn thema gyffredin gan nifer ohonyn nhw.
Tywydd
golyguDyma’r pennawd a gafwyd ar un papur dyddiol poblogaidd yn y gogledd dydd Llun yr Eisteddfod yn Ninbych a’r Fro:
- Flash flood alert Eisteddfod visitors, commuters and tourists face week of fierce rainstorms
Do mi gafwyd fflach-lifogydd dros y penwythnos ond rhagolygon “swyddogol” da iawn ar gyfer gweddill wythnos Eisteddfod Dinbych a’r Fro. Ond doedd hynny ddim yn ddigon da i ohebydd y papur. Roedd ymwelwyr yr Eisteddfod eleni yn wynebu cenllifau a curlaw ffyrnig drwy’r wythnos meddai. Gan na ddigwyddodd hynny, gellir gofyn beth a gymhellodd y papur i ddarogan y fath dywydd a brofodd yn anghywir?
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Ninbych
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Torf barchus ar ddydd Sadwrn ola’ Eisteddfod Dinbych, Golwg360, 10 Awst 2013
- ↑ "Gwefan yr Eisteddfod". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-14. Cyrchwyd 2013-04-27.
- ↑ Adroddiad Gwerthuso Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau Tachwedd 2013[dolen farw]
- ↑ Gwefan yr Eisteddfod Archifwyd 2013-06-27 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 23 Mehefin 2013
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Eisteddfod 2013 y BBC Archifwyd 2013-08-15 yn y Peiriant Wayback
- Llais y Maes Blog gan fyfyrwyr newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd