Rhaglen deledu hanes i blant oedd Tocyn Diwrnod. Ysgrifennwyd a pherfformiwyd y gyfres gan Theatr Gorllewin Morgannwg a fe'i cynhyrchwyd gan HTV Cymru i S4C.[1]. Darlledwyd y gyfres rhwng 1989 a 1991.[2]

Roedd y rhaglen yn gyfres addysgiadol i blant oedd yn portreadu cyfnodau neu ddigwyddiadau mewn hanes drwy 'deithio nôl mewn amser' ar fws dau lawr. Fe wnaed fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r rhaglen gefn-wrth-gefn. Darlledwyd y fersiwn Gymraeg ar S4C mewn slot bore ar gyfer rhaglenni ysgolion a darlledwyd yr un Saesneg mewn slot rhanbarthol gyda'r nos ar HTV Cymru Wales o dan y teitl Day Return.[3]

Roedd pedwar actor craidd yn y gyfres: Manon Eames, Sara Harris-Davies, Rhys Parry Jones a Gwyn Vaughan Jones (yn chwarae 'ei hunain' a chymeriadau hanesyddol eraill). Roedd hefyd cyfle i actorion ifanc gymeryd rhan.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cofnod Tocyn Diwrnod ar S4/Clic[dolen farw], 3 Mehefin 2012; Adalwyd o y Bydysawd, 2015-12-15
  2. Gwefan Broadcast for Schools; Adalwyd 2015-12-15
  3. Buses on Screen - Day Return AKA Tocyn Diwrnod Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback; Adalwyd 2015-12-15


  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato