Rhys Parry Jones
Actor ac awdur o Gymro yw Rhys Parry Jones neu Derec Parry (ganwyd 18 Chwefror 1960) sydd yn adnabyddus am chwarae rhan Llew yn Pobol y Cwm. Mae Rhys wedi ymddangos mewn penodau o EastEnders, Tracy Beaker, a'r sitcom High Hopes ar BBC Cymru. Ar gychwyn ei yrfa, defnyddiodd yr enw Derec Parry. [1]
Rhys Parry Jones | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1960 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Bywyd cynnar
golyguMagwyd Rhys yng Nghrymych, Sir Benfro.[2] Aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera ac astudiodd ddrama yn Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.[3]
Gyrfa
golyguRoedd yn aelod o Theatr Gorllewin Morgannwg yn gynnar yn ei yrfa.[4] Yn yr 1980au roedd yn un o actorion craidd y gyfres deledu hanes, i blant - Tocyn Diwrnod. Ysgrifennwyd a pherfformiwyd y gyfres gan y cwmni theatr a'i cynhyrchwyd gan HTV Cymru i S4C.[5]
Yn 2007, ymddangosodd yn y ffilm arswyd Gymreig Flick, oedd yn cyd-serennu Faye Dunaway, Hugh O'Conor a Michelle Ryan.
Yn 2008 fe ymddangosodd yn y ffilm Arwyr. Mae'n serennu yn Patagonia gan Marc Evans, drama wedi ei gosod yn Y Wladfa, a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Seattle ar 10 Mehefin 2010.
Mae'n chwarae rhan Tim Gibson yn ail gyfres y ddrama ddirgelwch 35 Diwrnod.
Bywyd personol
golyguMae'n briod a'r actores Lydia Lloyd Parry.[6] Mae'n gefnder i Dafydd Iwan a'i frodyr.[7]
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Rhys Parry Jones ar wefan Internet Movie Database
- Rhys Parry Jones ar Twitter
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhaglenni Theatr Gorllewin Morgannwg.
- ↑ Theatr Bara Caws - Garw (15 Medi 2014).
- ↑ Ffrind yn cofio Cymro fu farw ar Fedi 11 (10 Medi 2011). Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
- ↑ Urddas Cenedl a Theatr, Cylchgrawn bARN, Awst 2006; Adalwyd 2015-12-15
- ↑ Cofnod Tocyn Diwrnod ar S4/Clic[dolen farw], 3 Mehefin 2012; Adalwyd o y Bydysawd, 2015-12-15
- ↑ Sgrin Rhifyn 6, S4C. S4C (2008). Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
- ↑ Pals pay tribute to 'one of the greats' at farewell service , South Wales Evening Post, 23 Awst 2011. Cyrchwyd ar 30 Awst 2016.