Sara Harris-Davies
Actores o Gaernarfon yn wreiddiol yw Sara Harris-Davies (ganwyd Mai 1956).[1]
Sara Harris-Davies | |
---|---|
Ganwyd | Sara Harris-Davies Mai 1956 Caernarfon |
Alma mater | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymu |
Cafodd ei magu a'i haddysg cynnar yng Nghaernarfon a Llandeilo.[2] Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae hi wedi gweithio i gwmnïau theatr, teledu, ffilm a radio ers y 1980au.
Mae hi'n un o sefydlwyr Theatr Gorllewin Morgannwg a derbyniodd ganmoliaeth uchel am ei phortread o Shirley Valentine yn nhrosiad Manon Eames o ddrama Willy Russell, Shirley Valentine, gan ymddangos ar glawr y ddrama gyhoeddedig.
Bu'n un o gyfeillion Clwyd Theatr Cymru yn y 1990au ac yn aelod o'r cwmni preswyl.
Portreadodd nifer o gymeriadau yn rhai o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C fel Y Palmant Aur, Porc Peis Bach, Cowbois ac Injans a'r ffilm Cwm Hyfryd (ffilm) [La Belle Vallee].
Gyrfa
golygu[detholiad]
Theatr
golygu- Jeremeia Jones (1988)
- Vanessa Drws Nesa (1989)
- Gwartheg Gwyllt a Saeson (1990)
- Shirley Valentine (1992)
- Dawns y Dodo (1992)
- Clustie Mawr, Moch Bach (1993)
Teledu a ffilm
golygu- Y Cleciwr (1985-1988)[3]
- Tocyn Diwrnod (1989-1991)
- Traed Mewn Cyffion (1991)
- Cwm Hyfryd (1993)
- Yr Heliwr (1993)
- Trip Trap (1994)
- Pobol y Cwm (1995-2001)
- Y Palmant Aur (1996-2000)
- Porc Pei (1998)
- Pen Tennyn (2001)
- Cowbois ac Injans (2006-2007)
- Y Pris (2007)
- Flick (2007)
- Roman Mysteries (2007)
- Dau Dŷ a Ni (2007-2008)
- Abraham's Point (2008)
- Rain: An Original Musical (2009)
- Y Gwyll (2013)
- Dim Ond y Gwir (2015-2016)
- Pobol y Cwm (2015-2016)
- Gwaith/Cartref (2017-2018)
- Down the Caravan (2018)
- Arth (2018)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Sara HARRIS-DAVIES personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-26.
- ↑ "Regan Talent Group | Sara Harris-Davies" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-26.
- ↑ "Sara Harries-Davies". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-26.