Tolyatti
Dinas yn Oblast Samara, Rwsia, yw Tolyatti (Rwseg: Тольятти ), a adnabyddir mewn rhai ieithoedd fel Togliatti hefyd. Saif ar lan Afon Volga. Poblogaeth: 719,632 (Cyfrifiad 2010).
| |
![]() | |
Math |
tref/dinas ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Palmiro Togliatti ![]() |
![]() | |
Poblogaeth |
707,408 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth |
Sergey Antashev ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+04:00, Amser Moscfa, Amser Samara, Amser Moscfa ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Rwseg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Okrug Dinesig Tolyatti ![]() |
Gwlad |
Rwsia ![]() |
Arwynebedd |
314.78 km² ![]() |
Uwch y môr |
90 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Volga, Cronfa Kuybyshev ![]() |
Yn ffinio gyda |
Ardal Stavropolsky, Zhigulyovsk, Sir Stavropolskiy ![]() |
Cyfesurynnau |
53.52°N 49.42°E ![]() |
Cod post |
445000–445999 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Cyngor Dinas Tolyatti ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Sergey Antashev ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan |
Vasily Tatishchev ![]() |
HanesGolygu
Cafodd ei sefydlu fel caer yn 1737 wrth yr enw Stavropol a ddaeth i'w galw yn Stavropol-ar-Volga (Ста́врополь-на-Во́лге, Stavropol-na-Volge) er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a dinas Stavropol.
Cafodd cronfa fawr Kuybyshev ei hadeiladu yn y 1950au gan foddi'r hen safle a chodwyd dinas newydd gerllaw. Yn 1964, ailenwyd y ddinas yn Tolyatti er anrhydedd i Palmiro Togliatti, ysgrifennydd hir dymor Plaid Gomiwnyddol yr Eidal.
EconomiGolygu
Sefydlwyd ffatri ceir Lada yn Tolyatti sy'n cyflogi 110,000 mewn cydweithrediad gyda Fiat (ers 1970) a General Motors (ers 2001).
Ers hynny mae diwydiannau eraill wedi'i sefydlu, yn cynnwys gweithfeydd petrogemegol a chynhyrchu gwrtaith artiffisial. Mae gan y ddinas borthladd prysur ar Afon Volga.
AddysgGolygu
Ceir tair prifysgol yn y ddinas, yn cynnwys Prifysgol Wladol Tolyatti (Тольяттинский государственный университет ТГУ).
Dolenni allanolGolygu
- (Rwseg) Gwefan swyddogol y ddinas
- (Rwseg) Prifysgol Wladol Tolyatti