Tomás Ó Criomhthain
Llenor Gwyddeleg oedd Tomás Ó Criomhthain [Thomas O'Crohan] (21 Rhagfyr 1856 – 7 Mawrth 1937). Roedd yn frodor o An Blascaod Mór, y fwyaf o Ynysoedd Blasket oddi ar arfordir Swydd Kerry yn ne-orllewin Gweriniaeth Iwerddon, lle roedd diwylliant unigryw, Gwyddeleg ei iaith.
Tomás Ó Criomhthain | |
---|---|
Ganwyd | 1855 Ynysoedd Blasket |
Bedyddiwyd | 29 Ebrill 1855 |
Bu farw | 7 Mawrth 1937 Ynysoedd Blasket |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Gwladwriaeth Rydd Iwerddon |
Galwedigaeth | pysgotwr, ffermwr, dyddiadurwr, llenor |
Adnabyddus am | An t-Oileánach, Allagar na h-Inise |
Tad | Donal O'Crohan |
Mam | wife of Donal O'Crohan |
Priod | Máire Ní Chatháin |
Plant | Sean O'Crohan |
Ysgifennodd ddau lyfr, Allagar na hInise yn 1918-23, a gyhoeddwyd yn 1928, a'i gampwaith, yr hunangofiant An tOileánach ("Yr Ynyswr"), a orffennodd yn 1923 ac a gyhoeddwyd yn 1929. Ystyrir An tOileánach yn un o glasuron yr Wyddeleg, ac mae'n rhoi darlun o ffordd o fyw a ddiflannodd pan adawodd y trigolion olaf yr ynys yn y 1950au. Fel y rhan fwyaf o'r ynyswyr, enillai ei fywoliaeth fel pysgotwr yn bennaf, ond hefyd yn torri mawn a thyfu cnydau.
Cafodd addysg ysbeidiol pan oedd rhwng 10 a 18, pan ddeuai athrawes o'r tir mawr i fyw ar yr ynys am gyfnod. Priododd Máire Ní Chatháin yn 1878. Cawsant ddeg o blant, ond bu nifer ohonynt farw yn ieuanc, rhai o afiechydon ac araill mewn damweiniau. Ysgrifennodd ei fab, Seán, lyfr hefyd, yn disgrifio ymadawiad y trigolion olaf o'r ynysoedd.