Gwladwriaeth Rydd Iwerddon

gwladwriaeth sofan Iwerddon dan awdurdod frenhinol Lloegr

Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ( Saesneg: Irish Free State; Gwyddeleg: Saorstát Éireann) oedd enw'r wladwriaeth yn cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon a ymwahanodd oddi wrth Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon gyda Chytundeb Eingl-Wyddelig a lofnwyd gan Gynrychiolydd Weriniaethol Iwerddon yn Llundain ar 6 Rhagfyr 1921. Bu'r endid wladwriaeth, a ffurfiwyd gyda chynulliad cyfansoddol (y Trydydd Dail), tua 27 mlynedd (1922 - 1949) hyd nes cyhoeddwyd Deddf Gweriniaeth Iwerddon 1949, a gyhoeddodd Weriniaeth Iwerddon ar hyn o bryd.

Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasDulyn Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemAmhrán na bhFiann Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Gwyddeleg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau53.3478°N 6.2597°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholOireachtas of the Irish Free State Edit this on Wikidata
Map
Ariany bunt Wyddelig, punt sterling Edit this on Wikidata

Hanes golygu

 
Pasbort GRI (cuddwyd enw'r deilydd)

O 1 Ionawr 1801 tan 6 Rhagfyr 1922 roedd Iwerddon yn rhan o Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Yn etholiad cyffredinol Prydain ym mis Rhagfyr 1918, enillodd plaid weriniaethol Sinn Féin 73 o'r 106 sedd Wyddelig yn Nhŷ'r Cyffredin yn Llundain. Ym mis Ionawr 1919, gwrthododd aelodau'r senedd a etholwyd i Sinn Féin gymryd meddiant o’u eu seddi yn San Steffan gan sefydlu senedd Weriniaeth answyddogol, y Dáil Éireann a gyhoeddodd yn annibyniaeth unochrog Gweriniaeth Iwerddon. Ni dderbyniodd y Senedd yma, fodd bynnag, unrhyw gydnabyddiaeth ryngwladol. Ar ôl y rhyfel Annibyniaeth, trafododd cynrychiolwyr llywodraeth Prydain ac Aireacht (cabinet) Eire ym 1921 y Cytundeb Eingl-Wyddelig a gymeradwywyd gan y Dáil. Yn rhyngwladol, cydnabuwyd gwladwriaeth Iwerddon fel Wladwriaeth Iwerddon rydd (“Saorstát Éireann”, yn Saesneg "Irish Free State"). Dylai'r cyflwr rhydd newydd fod wedi cwmpasu'r ynys gyfan mewn theori, ond cytunodd y ddwy ochr y gallai chwe sir Gogledd Iwerddon (lle roedd mwyafrif Brotestanaidd a oedd eisoes wedi dod yn endid annibynnol) ddewis aros o dan y Deyrnas Unedig. Daeth y 26 sir sy'n weddill yn rhan o Wladwriaeth Rhydd Iwerddon a fyddai wedi cael statws sofran o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig (ond yn parhau i dderbyn Brenihinaeith Prydain fel pennaeth y wladwriaeth Wyddelig). Roedd gan y Wladwriaeth Rydd ei Lywodraethwr Cyffredinol, Senedd dau dy, cabinet o'r enw y Cyngor Gweithredol a Phrif Weinidog (Llywydd y Cyngor Gweithredol).

Rhwyg golygu

Nid oedd rhan o'r mudiad annibyniaeth a arweiniwyd gan Éamon de Valera yn derbyn y cytundebau â llywodraeth Prydain oherwydd credid nad oeddent yn gwarantu undod yr ynys a chysylltiadau â hwy gyda'r Deyrnas Unedig. Y canlyniad oedd Rhyfel Cartref gyda llywodraeth pro-Cytundeb W.T. Cosgrave yn llywodraethu a dienyddio 77 o Weriniaethwyr. Daeth y Rhyfel Cartref ddaeth i ben ym mis Mai 1923 gyda threchu'r garfan yn gwrthwynebu'r cytundeb (ochr de Valera).

Cymod golygu

Enillwyd etholiadau 1932 gan Fianna Fáil, plaid Gweriniaethol a gwrth-Brydeinig dan arweiniad de Valera, a chyhoeddwyd cyfansoddiad newydd ar 29 Rhagfyr 1937, sef Cyfansoddiad Iwerddon lle cafodd 'Wladwriaeth Ddiwygiedig' ei ddisodli gan Wladwriaeth Iwerddon Rydd neu, a adnabuwyd yn Saesneg gan yr enw Wyddeleg am yr ynys, Éire (Iwerddon). Darparodd strwythur cyfansoddiadol y wladwriaeth hon ar gyfer Llywydd, ond Brenin y Deyrnas Unedig yn cadw pwerau mewn materion o gysylltiadau tramor hyd nes 1949. Ar 18 Ebrill 1949 o dan prif weinidogaeth John A. Costello datganodd Deddf Gweriniaeth Iwerddon mai gweriniaeth lawn fyddai Iwerddon, gan gymryd y rôl a'r rhinweddau oedd yn perthyn i'r Brenin yn flaenorol i Arlywydd. Gydag hyn, gadawodd Iwerddon Cymanwlad Prydain. Arlywydd cyntaf y weriniaeth newydd oedd Seán T. O’Kelly.

Dirmyg golygu

Bydd y term ‘’Free Staters’’ yn cael ei harddel gan weriniaethwyr prybur, yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon ar wladwriaeth y Werinaieth ac, yn eu tyb nhw, meddylfryd Brydain-gymodlon arweinwyr y Weriniaeth.[1] Bydd Gweriniaethwyr prybur yn arddal mai Dail 1919 yw’r unig wir Weriniaeth ac nad oes hawl galw gwladwriaeth y 26 sir yn ‘weriniaeth’ hyd nes unir y 6 sir yn y Gogledd gyda’r De.

Ceir cwpled isod yn y gân ‘Take it Down from the Mast’ gan James Ryan.

Take it down from the mast Irish traitors
it’s the flag we Republicans claim
It can never belong to Free Staters
they’ve brought on it nothing but shame.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu