Tommo - Stori'r Sŵn Mawr

Cyfrol o straeon gan Andrew Thomas a Terwyn Davies yw Tommo: Stori'r Sŵn Mawr a gyhoeddwyd yn 2014 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]

Tommo - Stori'r Sŵn Mawr
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAndrew Thomas a Terwyn Davies
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi04 Tachwedd 2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781848518971

Cyfrol yn llawn o ddarluniau a straeon difyr yn adrodd hanes y DJ bywiog a swnllyd Andrew "Tommo" Thomas (neu i roi ei enw llawn: Andrew Paul Thomas) o Aberteifi, un o gyflwynwyr y prynhawn ar Radio Cymru. Un o Grymych yw ei dad.

Gadawodd yr ysgol cyn gynted ag y medrai, cario'r post, cynnal discos yn Aberteifi ac yn Sbaen, torri beddau, gweithio mewn siop cigydd, ac yna dechrau darlledu ar Radio Ceredigion. Nodir fod nifer o ddarlledwyr adnabyddus wedi dechrau eu gyrfaoedd yn gweithio'n ddi-dâl ar yr orsaf honno.

Mae'r darlun o sut mae'r gorsafoedd masnachol, lleol hyn yn cael eu rhedeg yn agoriad llygad, ac mae'n amlwg eu bod yn llefydd delfrydol i ddysgu'r grefft os yw'r egni a'r awydd gennych chi. Ac mae gan Tommo lond sied wair o egni a brwdfrydedd. Ar yr adeg yr unwyd gorsafoedd radio y de-orllewin – Radio Ceredigion, Radio Sir Benfro, Radio Sir Gâr, Scarlet FM a Nation Hits yn ardal Abertawe – roedd e'n gwneud pum rhaglen yr un pryd ar bum gorsaf wahanol! Ac yn gwneud y cyhoeddiadau ar Barc y Scarlets ar brynhawniau Sadwrn.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017