Bragdy Cymreig sy'n rhan o Gwmni Bragu Hurns yn Abertawe yw Tomos Watkin.

Tomos Watkin
Math
cwmni
Math o fusnes
cwmni
Sefydlwyd1995
PencadlysAbertawe
Gwefanhttp://www.tomoswatkin.com/ Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y cwmni Tomos Watkin pan agorwyd bragdy bychan yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin yn 1995, a hynny gan Simon Buckley. Yn ddiweddarach, symudodd i fragdy mwy yn Abertawe, a daeth yn berchen ar nifer o dafarnau lleol. Prynwyd ochr fragu'r cwmni gan Hurn's, a gadawodd Buckley y cwmni.

Mae heddiw'n cynhyrchu cwrw megis Cwrw Haf, Cwrw Gaeaf, Cwrw Braf ac OSB, sydd wedi dod yn boblogaidd yng Nghymru. Bu dadlau yn 2000, pan ail-enwodd Tomos Watkin yr Apollo Hotel, Caerdydd yn The Cayo Arms er anrhydedd i Julian Cayo-Evans, sylfaenydd Byddin Rhyddid Cymru. Gwrthwynebwyd hyn yn gyhoeddus gan nifer o wleidyddion Ceidwadol.

Cyfeiriadau

golygu