Tonnau electromagnetig
Dosrennir tonnau electromagnetig i mewn i grwpiau yn ôl eu mynychder. Mae yna donnau radio, microdonau, pelydredd isgoch, golau gweladwy, pelydredd uwchfioled, pelydredd x a phelydredd gamma. Mae'r pellter rhwng pob ton yn gwahaniaethu rhwng 1 kilometr, a 0.000001 mm (bras-amcangyfrif). Mae gan donnau electromagnetig lawer o ddefnyddiau.
Defnydd tonnau electromagnetigGolygu
Isod mae rhestr o ddefnyddiau cyffredin y tonnau electromagnetig.
Pelydrau RadioGolygu
Defnyddir ar gyfer darlledu gwasanaethau radio a theledu. Mae tonnau radio’n cael eu defnyddio i drawsyrru rhaglenni teledu a radio. Mae tonnau radio â thonfeddi hirach yn cael eu hadlewyrchu oddi ar haen o’r atmosffer uwch sydd wedi’i gwefru’n drydanol. Mae hyn yn golygu y gallant gyrraedd derbynyddion nad ydynt yng ngolwg y trawsyrrydd gan fod arwyneb y Ddaear yn grwm.
Pelydrau MicrodonGolygu
Fe'u ddefnyddio i goginio bwyd trwy ysgogi moleciwlau dŵr.
Pelydrau Isgoch (IR)Golygu
Y pelydrau yma sy'n cludo gwres yr haul i'r byd.
Pelydrau Gweledol (goleuni)Golygu
Y goleuni sy'n ein caniatáu i weld.
Pelydrau Uwchfioled (UV)Golygu
Pelydrau sy'n rhoi lliw haul i'ch croen.
Pelydrau-XGolygu
Fe'u defnyddir mewn ysbytai i wirio cyflwr esgyrn. Maent yn adweithio ag electronau atomau.
Pelydrau GamaGolygu
Fe'u defnyddir i ddiheintio ffrwythau. Maent yn adweithio â chnewyll atomau.