Tor-cyfraith cyfundrefnol yn yr Unol Daleithiau

Ers ei gychwyn, mae tor-cyfraith cyfundrefnol yn Unol Daleithiau America wedi datblygu o fewn cylchoedd ethnig. Yn niwedd y 19g ymddangosodd y Maffia Eidalaidd mewn dinasoedd mawr yr Unol Daleithiau, ac ymhen fawr o dro buont yn cystadlu â chriwiau Iddewig a Gwyddelig am fonopolïau troseddol. Bu'r Maffia Americanaidd ar ei anterth o oes y Gwaharddiad (1920–33) hyd at y 1960au. Blodeuai pob math o drosedd yn sgil y 18fed Gwelliant i'r Cyfansoddiad, a waharddai gwerthu, cynhyrchu, a mewnforio alcohol yn yr Unol Daleithiau, wrth i'r Maffia fanteisio ar gyfleoedd i fragu cwrw a distyllio gwirodydd yn anghyfreithlon, a'u smyglo a gwerthu ar draws y wlad. Erbyn i'r 18fed Gwelliant gael ei ddirymu ym 1933, roedd y Maffia yn sefydliad cenedlaethol a chanddo ddylanwad ac adnoddau mewn dinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau. Heb reolaeth dros y fasnach alcohol bellach, trodd y maffiosi at weithgareddau anghyfreithlon eraill. Datblygodd hierarchaethau yn debyg i gwmnïau cyfreithlon, a'r Maffia ar ffurf cartél wedi ei rannu yn "deuluoedd" neu syndicetiau a chanddynt gyfrifoldeb dros ddinasoedd gwahanol.

Defnyddiodd y Maffia sawl dull i herio'r gyfraith, gan gynnwys bygythiadau a thrais yn erbyn dioddefwyr a thystion, rhag iddynt hysbysu'r awdurdodau neu dystio yn ei erbyn; ymyrryd â'r rheithgor neu lwgrwobrwyo'r barnwr mewn achos llys; a thalu'r heddlu i oddef gweithgarwch y Maffia o fewn awdurdodaeth benodol. Mae tor-cyfraith cyfundrefnol wedi ei alluogi i raddau gan barodrwydd nifer o Americanwyr i oddef gweithgareddau anghyfreithlon a ystyrir yn droseddau di-ddioddef neu'n wendidau personol, er enghraifft gamblo neu'r diwydiant rhyw. O ganlyniad i'r fath agweddau, mae'r cyhoedd yn debycach o ariannu'r economi danddaearol, a'r awdurdodau yn debycach o anwybyddu'r tor-cyfraith i raddau. Mae'r rheiny a mân-droseddau tebyg yn darparu ffynhonnell economaidd ar gyfer nodweddion eraill sydd yn dreisgar ac yn ddinistriol i gymunedau.[1] Prif fasnachau tor-cyfraith cyfundrefnol yn yr Unol Daleithiau yw gamblo anghyfreithlon a'r fasnach gyffuriau, ac yn ogystal daw arian o fentrau lled-gyfreithlon megis usuriaeth a chasglu ar fenthyciadau drwy drais, a racetirio busnesau er mwyn prosesu arian yn anghyfreithlon. Defnyddir swyddfeydd gwerthu tai, cwmnïau casglu sbwriel, siopau glanhau dillad, a chynnal peiriannu gwerthu yn aml fel cwmnïau ffrynt am dor-cyfraith, yn ysglyfaeth am gynlluniau diogelu, neu yn fonopolïau i'w cynnal drwy drais a braw. Trosedd cyffredin yw herwgipio lorïau a lladrata'r nwyddau sydd ynddynt er mwyn eu gwerthu yn y farchnad ddu. Maent hefyd yn treiddio ac yn esbloetio undebau llafur, er enghraifft drwy embeslu o gronfeydd ariannol yr undeb.

Y Maffia golygu

Mae'n bosib bod tua 1000 o "ddynion gwneud" yn y Maffia Americanaidd, ac 80% ohonynt yn byw yn Ninas Efrog Newydd a thalaith New Jersey. Y pum teulu yw'r Bonanno, y Colombo, y Genovese, y Gambino, a'r Lucchese. Maent hefyd yn gweithredu yn Boston, Chicago, Philadelphia, ac ym Miami a lleoliadau eraill yn ne Fflorida. I gyd, tybir bod 10,000 o aelodau cyswllt gan y Maffia ar draws yr Unol Daleithiau.

Y Mob Iddewig golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Y Mob Gwyddelig golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gangiau'r strydoedd golygu

Yn yr Unol Daleithiau, tueddir i gangiau'r strydoedd eu ffurfio ar sail ethnigrwydd. Y Bloods a'r Crips yw'r enwocaf o'r gangiau du, ac dechreuodd yr Almighty Latin Kings a'r Almighty Latin Queens gan Americanwyr Latino yn Chicago.

Gangiau beiciau modur golygu

Yn sgil yr Ail Ryfel Byd datblygodd gangiau beiciau modur yn yr Unol Daleithiau, wrth i gyn-filwyr ymuno â chlybiau beiciau modur a throi at dor-cyfraith. Cafodd delwedd y beiciwr ar herw ei boblogeiddio gan ffilmiau'r 1950au a'r 1960au. Chwyddodd y gangiau wrth i gyn-filwyr Rhyfel Fietnam ymuno yn y 1970au a'r 1980au. Y bedair gang fawr heddiw yw'r Bandidos, y Hells Angels, yr Outlaws, a'r Pagans.

Cartelau cyffuriau golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Organized crime. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Mawrth 2021.

Darllen pellach golygu

  • P. Huston, Tongs, Gangs, and Triads: Chinese Crime Groups in North America (Boulder, Colorado: Paladin Press, 1995).
  • J. B. Jacobs, Busting the Mob: United States v. Cosa Nostra (Efrog Newydd: New York University Press, 1994).
  • V. Peterson, The Mob (Ottowa: Green-Hill Press, 1983).