Tor-cyfraith cyfundrefnol
Trosedd ar raddfa eang a chanddo strwythur megis rhwydwaith neu gorfforaeth yw tor-cyfraith cyfundrefnol. Yn ogystal â'i natur fasnachol, mae tor-cyfraith cyfundrefnol yn treiddio i adrannau o'r gymdeithas sifil, er enghraifft y llywodraeth a'r heddlu, i amddiffyn ei weithgareddau anghyfreithlon. Yn aml, bydd grwpiau o'r fath yn elwa ar fentrau a busnesau megis gamblo, puteindra, a'r fasnach gyffuriau. Gall weithredu ar raddfa leol, cenedlaethol, neu ryngwladol.[1][2]
Syniadaeth academaidd
golyguDiffiniadau
golyguPwysleisir nad yw tor-cyfraith cyfundrefnol yn gyfystyr â throseddau sydd wedi eu trefnu; hynny yw, mae'r diffiniad yn hepgor cynllwyniau dros dro gan gangiau bychain a chriwiau o ychydig o droseddwyr. Gellir ceisio diffinio tor-cyfraith cyfundrefnol yn nhermau cyfreithiol, economaidd (monopoli, elw, mentergarwch), gwleidyddol (llygredigaeth), cymdeithasegol ("bwlch grym"). Mae nifer o grwpiau yn tynnu ar nodweddion hanesyddol a diwylliannol pwysig, er enghraifft y mafia yng nghymdeithas Sisili a'r syniadau o dynghediaeth, drwgdybiaeth a dial. O bosib gall rhestr o feini prawf tor-cyfraith cyfundrefnol gynnwys:
- parhad/sefydlogrwydd
- hierarchaeth/strwythur
- rhaniad llafur/soffistigedig
- hunan-adnabyddiaeth/aelodaeth gyfyngedig
- awdurdod yr enw
- trais a bygythiad trais
- monopoli ar fentrau anghyfreithlon.
Damcaniaethau
golyguMegis troseddeg a seicoleg yn gyffredinol, mae ysgolheigion wedi ymchwilio droeon i geisio darganfod pam bod unigolion yn troseddu. Er enghraifft, mae damcaniaeth y dewis rhesymol yn honni bod troseddwyr yn ymarfer ewyllys rydd drwy ystyried cost a budd. Mae eraill yn ystyried bod hinsawdd ddiwylliannol ac agweddau eraill yn fwy o ddylanwad ar achosion tor-cyfraith.
Troseddau
golyguTroseddau anrheithgar
golygu- Racetirio: twyllo busnes a llafur
- Prosesu arian anghyfreithlon
- "Partneriaid tawel" a rheoli cwmnïau ffrynt
- Cynlluniau diogelu
- Treiddio ac ecsbloetio undebau llafur, e.e. dwyn o gronfeydd pensiwn, embeslu, yswiriant streic (cribddail)
- Twyll yn y farchnad stoc
Ymelwa ar bechodau
golygu- Usuriaeth
- Codi betiau
- Lotri
- Gemau pocer fideo
- Casinos
- Y diwydiant rhyw
- Puteindai
- Parlyrau tylunio
- Clybiau stripio
- Pornograffi
Y fasnach ddu
golygu- Prif: Y fasnach ddu
Elwa ar natur anghyfreithlon pethau sydd fel arall yn gyfreithlon yw'r fasnach ddu.
- Moethusion a mewnforion gwerthfawr: persawr, gwin, gwirodydd, dillad cynllunydd, ceir
- Organau dynol
- Drylliau
- Rhywogaethau mewn perygl
- Arteffactau diwylliannol a chelfyddydweithiau a ladratwyd
- Torri hawlfraint
- Cael gwared ar wastraff peryglus
- Torri coed yn anghyfreithlon
- Ffugiadau
- Troseddau ariannol
- Lladrata hunaniaeth
- Twyll bancio ac yswiriant
- Twyl cardiau credyd
- Prosesu arian anghyfreithlon
- Seiber-droseddau
- Twyll cyfrifiadurol
- Sgamiau ar-lein
- Pornograffi plant
Y fasnach gyffuriau
golygu- Prif: Y fasnach gyffuriau
- Cnydau
- Cyffuriau synthetig
- MDMA (ecstasi)
- LSD
- PCP
- Barbitwradau
- Methamffetaminau
Y fasnach bobl
golygu- Prif: Y fasnach bobl
Grwpiau troseddol cyfundrefnol
golyguY maffia yn yr Eidal
golygu- Prif: Maffia'r Eidal
Y maffia yn yr Unol Daleithiau
golygu- Prif: Maffia'r Unol Daleithiau
Mae'n bosib bod tua 1000 o "ddynion gwneud" yn y maffia Americanaidd, ac 80% ohonynt yn byw yn Ninas Efrog Newydd a thalaith New Jersey. Y pum teulu yw'r Bonanno, y Colombo, y Genovese, y Gambino, a'r Lucchese. Maent hefyd yn gweithredu yn Boston, Chicago, Philadelphia, ac ym Miami a lleoliadau eraill yn ne Fflorida. I gyd, tybir bod 10,000 o aelodau cyswllt gan y maffia ar draws yr Unol Daleithiau.
Gangiau'r strydoedd
golyguYn yr Unol Daleithiau, tueddir i gangiau'r strydoedd eu ffurfio ar sail ethnigrwydd. Y Bloods a'r Crips yw'r enwocaf o'r gangiau du, ac dechreuodd yr Almighty Latin Kings a'r Almighty Latin Queens gan Americanwyr Latino yn Chicago. Yn ddiweddar, datblygodd y Neta mewn carchardai Puerto Rico, a'r gangiau cysylltiedig MS-13 a Mara 18, gangiau Latino a chanddynt rhyw 100,000 o aelodau ar draws Gogledd America, gan gynnwys Mecsico, El Salfador a Gwatemala. Mae cysylltiadau rhyngddynt a'r EME (y maffia Mecsicanaidd).
Gangiau beiciau modur
golyguYn sgîl yr Ail Ryfel Byd datblygodd gangiau beiciau modur yn yr Unol Daleithiau, wrth i gyn-filwyr ymuno â chlybiau beiciau modur a throi at dor-cyfraith. Cafodd delwedd y beiciwr ar herw ei boblogeiddio gan ffilmiau'r 1950au a'r 1960au. Chwyddodd y gangiau wrth i gyn-filwyr Rhyfel Fietnam ymuno yn y 1970au a'r 1980au. Y bedair gang fawr heddiw yw'r Bandidos, y Hells Angels, yr Outlaws, a'r Pagans.
Mafiya (Rwsia)
golygu- Prif: Mafiya
Yakuza
golygu- Prif: Yakuza
Sefydliadau troseddol cyfundrefnol Japan yw'r yakuza.
Tor-cyfraith cyfundrefnol yn Tsieina
golyguMae strwythur yr holl grwpiau troseddol cyfundrefnol yn Tsieina yn hynod o gymhleth. Datblygodd y cymdeithasau cudd a'r triadau ar ddechrau'r 17g. Yn Hong Kong mae'r 14K, Wo Shing Wo, a San Yee On. Cysylltir y tongiau â thor-cyfraith cyfundrefnol, a'r baohusan sy'n ymwneud â llwgrwobrwyo a llygredigaeth. O fewn y categori hwn mae syndicetiau a Chymdeithasau Duon megis Syndicet Liang Xiao Min.
Yn ogystal â'r rhain, ceir grwpiau tanddaearol sy'n debyg i'r maffias ym myd y Gorllewin, gangiau'r strydoedd (sydd hefyd yn gweithredu mewn ardaloedd Tsieineaidd ar draws y byd), rhwydweithiau masnachu cyffuriau sy'n rhan o'r Triongl Euraidd, a rhwydweithiau sy'n smyglo a masnachu pobl (gan gynnwys llafurwyr nas dogfennir a gweithwyr rhyw). Yn Nhaiwan, heijn yw'r enw ar ddylanwad tor-cyfraith cyfundrefnol yn y byd gwleidyddol.
Colombia
golyguColombia yw'r wlad sydd â'r mwyaf o "dor-cyfraith anghofensiynol" yn y byd. Mae tor-cyfraith cyfundrefnol yn y wlad ynghlwm wrth rhyfel mewnol Colombia ers 1964, ac yn ymwneud ag herwfilwyr, llygredigaeth eang yn y llywodraeth a'r heddlu, grwpiau parafilwrol, y fasnach gyffuriau, a banditiaid neu "herwyr cymdeithasol". Y narco-mafia yw'r cyfuniad o'r cartelau cyffuriau sy'n cynhyrchu a gwerthu cocên ac heroin, a pharafilwyr yr NLA a'r FARC sy'n gwarchod y fasnach honno.
Brwydro'n erbyn tor-cyfraith cyfundrefnol
golyguWrth gwrs, swyddogaeth yr heddlu ac asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith yw ymdrin â thor-cyfraith cyfundrefnol. Maent yn dibynnu ar gudd-wybodaeth, gwyliadwriaeth, hysbyswyr ac ymgyrchoedd cudd. Mae'r heddlu yn addo breinryddid rhag erlyniad neu raglen diogelu tystion er mwyn denu aelodau'r grwpiau i dystio yn erbyn eu cyd-droseddwyr. Mewn rhai gwledydd mae deddfau arbennig i daclo'r troseddwyr, megis RICO yn yr Unol Daleithiau.
Mewn rhai achosion, ceir dadleuon y dylir newid y gyfraith o ran gweithgareddau'r troseddwyr cyfundrefnol er mwyn cymryd yr elw allan o'u dwylo, er enghraifft cyfreithloni cyffuriau.
Oherwydd ei fygythiad posib i sefydlogrwydd cymdeithasol, mae nifer o lywodraethau yn ymdrechu'n arbennig i atal tor-cyfraith sydd o natur gyfundrefnol. Yn ogystal â deddfwriaeth, polisïau a strategaethau i geisio gorfodi'r gyfraith yn effeithiol, maent hefyd yn diwygio'r systemau cyfiawnder er mwyn ceisio atal llygredigaeth. Er mwyn i'r ymdrechion gwleidyddol weithio, mae'n rhaid bod cymdeithas sifil hefyd yn chwarae ei rhan: mae cyfrifoldeb gan y cyhoedd i wrthod nwyddau a gwasanaethau anghyfreithlon, i wrthod talu a derbyn llwgrwobrwyon, ac i gymryd rhan mewn bywyd democrataidd. Dadleua Finckenauer taw yn y bôn rheol y gyfraith a chydraddoldeb a chyfleoedd economaidd yw'r dulliau mwyaf effeithiol wrth atal tor-cyfraith cyfundrefnol, ac yn wir unrhyw drosedd.
Ymdrechion rhyngwladol
golyguMaterion rhyngwladol | |
Amgylchedd |
Ymhlith y cytundebau a sefydliadau rhyngwladol i atal tor-cyfraith cyfundrefnol mae Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Dor-cyfraith Cyfundrefnol Trawswladol (2000), y Tasglu Gweithredu Ariannol ar Brosesu Arian yn Anghyfreithlon (1989), yr OAS, yr OECD, Swyddfa'r CU dros Reoli Cyffuriau ac Atal Tor-cyfraith, Interpol (177 o wledydd), ac Europol.
Portreadau diwylliannol
golyguPortreadir y Maffia mewn sawl gwaith, o'r opera Cavalleria rusticana gan Pietro Mascagni, y gyfres deledu La Piovra, a'r rhaglen ddogfen La Mafia (2006).
Ffilmiau gangster megis The Godfather a Goodfellas a'r gyfres deledu The Sopranos yw'r sail i'r ddelwedd sydd gan fwyafrif y cyhoedd o'r maffia Americanaidd.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "organized crime" yn The Columbia Encyclopedia, 6ed argraffiad (2016).
- ↑ Gordon Marshall. "organized crime" yn A Dictionary of Sociology (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998).
Ffynonellau
golygu- James O. Finckenauer. Mafia and Organized Crime: A Beginner's Guide (Rhydychen, Oneworld, 2007).