Brid o gi ymladd o Japan yw Tosa Inu (Japaneg: 土 佐; hefyd Tosa), sy'n frid prin. Fel yr awgryma'r enw, cafodd ei fagu'n wreiddiol yn nhref Tosa (a elwir heddiw'n Kōchi) - a'i fagu fel ci ymladd. Caiff ei fagu i'r un pwrpas heddiw.[1]

Tosa Inu

Ymddangosiad golygu

Yn gyffredinol, mae'r ci a fegir yn Japan oddeutu hanner pwysau'r ci a fegir y tu allan i Japan. Mae'r brid Siapaniaidd hwn yn pwyso rhwng 36 and 61 kg, tra bod y bridiau a fegir y tu allan i'r wlad yn pwyso rhwng 60 to 100 kg a'i daldra'n 62 to 82 cm wrth ei war.

Nodweddir ei got gan ei ymddangosiad byr a llyfn o liw coch, gwinau neu elain. O bryd i'w gilydd gall fod o liw du diflas, ond mae hyn yn anghyffredin.[2]

Hanes golygu

Crëwyd y brîd hwn yn wreiddiol yn ail hanner y 19g yn Siapan. Tarddodd y brid o fath gwhahanol sef y Shikoku-Inu, ci sy'n ​​pwyso'n tua 25 cilogram ac yn sefyll tua 55 centimetr o uchder ac sy'n debyg iawn i'r Spitz Ewropeaidd. Croeswyd y cŵn hyn gyda bridiau Ewropeaidd eraill, megis yr Hen Gi Tarw Seisnig ym 1872, y Gafaelgi ym 1874, y St Bernard a'r Pointer Almaeneg ym 1876, y Ci Mawr Denmarc ym 1924, a'r Daeargi Tarw hefyd ym 1924. Y nod wrth groesi'r cŵn hyn oedd magu ci ymladd, heini a chryfach. Heddiw, mae'n dal i gael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd fel ci ymladd, ond fel arfer fe'i cedwir fel anifail anwes. Yn yr amgylchedd teuluol mae Tosa yn amyneddgar ac yn addfwyn.[3][4]

Y gyfraith golygu

Yng ngwledydd Prydain a gogledd Iwerddon, caiff y brid hwn ei reoli gan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.[5] Mae'n rhaid cael caniatâd arbennig gan gwrt i gael yr hawl i fewnforio'r ci hwn.[6] Mae rhai cwmniau yswiriant yn gwrthod yswirio'r cartref ble ceir y brid hwn.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan ukcdogs.com Archifwyd 2009-02-23 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 6 Ionawr 2014
  2. "Gretabreeds.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-30. Cyrchwyd 2013-08-18.
  3. Gwefan You Tube; adalwyd 06 Ionawr 2014
  4. Gwefan You Tube; adalwyd 06 Ionawr 2014
  5. "Act No. 32 of 2000, Legal Supplement Part A" (PDF). Trinidad and Tobago Gazette (Fifth Session Fifth Parliament Republic of Trinidad and Tobago) 39 (156). 16 August 2000. http://www.ttparliament.org/legislations/a2000-32.pdf. Adalwyd 16 Mai 2013.
  6. "65". Dangerous Dogs Act 1991. London: HMSO/National Archives. 1991. http://www.opsi.gov.uk/acts/acts1991/Ukpga_19910065_en_1.htm. Adalwyd 8 February 2010.