Tower Bridge, Llundain
Cyfuniad o bont siglog a phont grog yn Llundain, Lloegr yw Tower Bridge, sydd yn croesi'r Afon Tafwys. Daw'r enw o'r tŵr enwog sydd gerllaw, Tŵr Llundain. Cysylltai ardal y Borough i'r de â chanol Dinas Llundain i'r gogledd. Wedi ei hagor ar 30ain o Fehefin 1894, mae bellach wedi datblygu i fod yn symbol eiconig o Lundain. Caiff ei chamgymryd yn aml fel London Bridge, y bont nesaf i fyny'r afon.
Math | pont wrthbwys, pont ddur, pont ffordd, atyniad twristaidd, pont grog |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tŵr Llundain |
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Tower Hamlets, Bwrdeistref Llundain Southwark |
Agoriad swyddogol | 30 Mehefin 1894 |
Cysylltir gyda | Tower Bridge Road, Tower Bridge Approach |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5056°N 0.0753°W |
Cod OS | TQ3367180267 |
Hyd | 244 metr |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Deunydd | dur, gwenithfaen, concrit |