Mae talaith Tozeur (Arabeg: ولاية توزر) yn un o 24 talaith (gouvernorat) Tiwnisia. Fe'i lleolir yng ngorllewin Tiwnisia, ac mae'n ffinio ar Algeria. Mae ganddi arwynebedd tir o 4,719 km² a phoblogaeth o 98,000 (cyfrifiad 2004). Tozeur yw prifddinas y dalaith.

Tozeur
MathTaleithiau Tiwnisia Edit this on Wikidata
PrifddinasTozeur Edit this on Wikidata
Poblogaeth107,912 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1956 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTiwnisia Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd4,719 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.92°N 8.13°E Edit this on Wikidata
TN-72 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad talaith Tozeur

Tozeur yw talaith fwyaf gorllewinol y wlad. Mae cyfran fawr ohoni yn gorwedd ar ymyl y Sahara ac yn anialwch tywodlyd neu greigiog. Yma mae anialwch y Grand Erg Oriental yn dechrau ac yn ymestyn i lawr i'r de. Yn ymyl dinas Tozeur, sydd yng nghanol y dalaith, ceir anialdir hallt Chott el-Jerid. Lleolir y rhan fwyaf o'r trefi a phentrefi ar ymylon y tir anial, o gwmpas y gwerddonau ffrwythlon lle ceir digon o ddŵr ar gyfer amaethyddiaeth a nodweddir gan blanhigfeydd palmwydd (palmeraies).

Mae'r dalaith yn cael tymherua uchel iawn yn yr haf ond mae'n fwy cymhedrol yn y gaeaf, er dal yn boeth. Ychydig iawn o law a geir, a hynny'n disgyn yn bennaf ar ymylon y dalaith ddechrau'r gaeaf.

Gorwedd talaith Tozeur yng ngogledd yr ardal anial neu led-anial a elwir Le Grand Sud ("Y De Eang") yn Nhiwnisia.

Dinasoedd a threfi golygu

Taleithiau Tiwnisia  
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan