Tramffordd Pwllheli a Llanbedrog
Roedd ‘’’Tramffordd Pwllheli a Llanbedrog’’’ yn dramffordd led 3 troedfedd, rhwng Pwllheli a Llanbedrog yng Ngwynedd. Defnyddiwyd ceffylau i dynnu’r cerbydau.
Math | tram line |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1894 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.88°N 4.42°W |
Hyd | 3.88 milltir |
Sefydlwydwyd gan | Solomon Andrews |
Adeiladwyd y tramffordd gan Solomon Andrews, ac agorwyd y lein o Bwllheli hyn at ben gorllewinol y dref ym 1894. Aeth y lein ar y traeth ar y cychwyn, ond roedd rhaid ei symud yn ôl i dir mwy diogel. Estynnwyd y lein i Lanbedrog ym 1897. Dinistriwyd y lein yn Hydref 1927 gan storm, a chaewyd y tramffordd.[1]