Mae Tramlink yn rhwydwaith tram yn gwasanaethu Croydon a’r ardal o’i gwmpas. Dechreuodd ei wasanaethau yn 2000, y rhwydwaith tram cyntaf yn Llundain ers 1952. Ei berchennog yw London Trams, rhan o Transport for London a threfnir ei wasanaethau gan Tram Operations Cyf, rhan o FirstGroup.

Tramlink
Enghraifft o'r canlynoltram system Edit this on Wikidata
Rhan oLondon Trams Edit this on Wikidata
PerchennogTransport for London Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTramlink route 1 (London), Tramlink route 2 (London), Tramlink route 3 (London), Tramlink route 4 (London), Tramlink route 5 Edit this on Wikidata
Map
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
GweithredwrLondon Trams Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthLlundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tfl.gov.uk/modes/trams/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae 39 o orsafoedd a 28 cilomedr o gledrau[1]. Canolbwynt y rhwydwaith yw Croydon, gyda leiniau yn terfynu yng Ngorsaf reilffordd New Addington, Gorsaf reilffordd Elmers End, New Addington a Gorsaf reilffordd Wimbledon.[2]

Defnyddir 24 o dramiau, adeiladwyd gan gwmni Bombardier yn Wakefield, seiliedig ar dramiau Köln, adeiladwyd gan Bombardier yn Brugge a Wien.[3]Ar 18 Awst 2011, rhoddwyd cytundeb i Stadler Rail ar gyfer 6 Tram Variobahn, a chyraeddasant yn 2012. Archebwyd 6 arall yn 2015.[4]

Er caewyd ei rwydwaith o dramffyrdd erbyn 1951, daeth cynnig i ddefnyddio tramiau rhwng Gorsaf reilffordd Dwyrain Croydon a stad tai newydd yn New Addington, ac ym 1962, un arall ar y rheilffordd rhwng Gorsaf reilffordd Gorllewin Croydon a Gorsaf reilffordd Wimbledon. Datblygwyd y ddau syniad yn ystod y 70au gan reolwyr Rheilffyrdd Prydeinig.[5] Derbyniwyd y cynllun gan Gyngor Croydon ym mis Chwefror 1990 a chydweithiodd y cyngor gyda LRT (London Regional Transport); pasiodd Deddf Croydon Tramlink yn 1994.[6]

Mae’r rhwydwaith yn seiliedig ar gylcg ynghanol Croydon, gyda changennau’n rhedeg i’r gogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain, dau yn ddefnyddio rheilffyrdd oedd yn bodoli’n barod ac un yn dilyn trwydd o hen reilffordd.[7]

 
Rhwydwaith Tramlink yn 2017

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu