Cwlen

(Ailgyfeiriad o Köln)

Pedwaredd dinas fwyaf yr Almaen yw Cwlen (Almaeneg: Köln /kœln/, Ffrangeg a Saesneg: Cologne) ar ôl Berlin, Hambwrg a München, gyda tua un filiwn o drigolion. Mae wedi'i lleoli yn nhalaith Nordrhein-Westfalen, ar lan Afon Rhein. Mae hi'n adnabyddus iawn am ei heglwys gadeiriol yn y dull Gothig.

Cwlen
Mathdinas Hanseatig, metropolis, dinas Rhyfeinig, bwrdeistref trefol yr Almaen, dinas fawr, urban district of North Rhine-Westphalia Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlColonia Claudia Ara Agrippinensium Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,087,353 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHenriette Reker Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantSant Pedr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Llywodraethol Cwlen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd405.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr59 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Rhein Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArdal Rhein-Erft, Ardal Rhein-Sieg, Ardal Rhein-Berg, Leverkusen, Mettmann, Rhein-Kreis Neuss, Hürth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.9422°N 6.9578°E Edit this on Wikidata
Cod post51149, 50667, 50668, 50670, 50672, 50674, 50677, 50676, 50678, 50679, 50765, 50767, 50733, 50735, 50737, 50739, 50823, 50825, 50827, 50829, 50833, 50858, 50859, 50931, 50935, 50937, 50939, 50968, 50969, 50996, 50997, 50999, 51061, 51063, 51065, 51067, 51069, 51103, 51105, 51107, 51109, 51143, 51145, 51147 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Cwlen Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arglwydd Faer Cwlen Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHenriette Reker Edit this on Wikidata
Map
Cwlen

Dechreuodd yr hanes Cwlen tua dwyfil o flynyddoedd yn ôl gan sefydliad y ddinas gan y Rhufeinwyr yn 19 OC. Enw cyntaf y ddinas oedd "Oppidum Ubiorum" tan 50 OC, pan codwyd y dref i ddinas gan ymerawdwr Rhufain Claudius ar ôl i'w wraig e Agrippina, sydd fod wedi ceni yn Oppidum Ubiorum ac yn wnes ymlaen wedi mynd i Rufain, erchi iddo fe am hynny. Newidiwyd enw'r ddinas i "Colonia Claudia Ara Agrippinensium", neu CCAA yn fyr wedyn. Datblygwyd enw diwedda'r ddinas, Köln o'r gair Lladin Colonia, sy'n golygu gwladfa. Mae'r enwau yn llawer o ieithiau eraill, fel Cologne yn y Saesneg a Ffrangeg, Kolonia yn y Pwyleg, a hefyd Cwlen yn y Gymraeg yn dod o honna.

Santes Ursula

golygu

Roedd Ursula yn dywysgoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw at ei darpar-ŵr Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Aeth i ddinas Rhufain, ac yna ymlaen i Gwlen, oedd dan warchae gan yr Hyniaid. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd Ursula ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383. Ym Masilica y Santes Ursula yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion Ursula a'r gwyryfon. Daeth Cwlen yn ganolfan pererindod o bwys mawr yn yr Oesoedd Canol gyda phobl yn tyrru yno o bob rhan o Ewrop. Ceir delwedd o'r Santes Ursula ar arfbais Baner Ynysoedd Morwynnol Prydain yn y Caribî.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Amgueddfa Römisch-Germanisches
  • Amgueddfa Wallraf-Richartz
  • Colonius
  • Eglwys gadeiriol
  • Hansa Hochhaus
  • Kölner Philharmonie
  • Kölnturm
  • Lanxess Arena
  • Messeturm Köln
  • RheinEnergieStadion

Enwogion

golygu

Gefeilldrefi

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu