Trampolîn
Llen o gynfas neu ddefnydd arall a ddelir i ffrâm fetel gan sbringiau er mwyn neidio arni yw trampolîn,[1][2] trampolin[1] neu tramplin.[2] Defnyddir am hwyl, ymarfer corff, yn y syrcas, mewn gymnasteg, ac fel mabolgamp ynddi ei hun. Datblygodd y fabolgamp trampolinio yn yr 20g.[3]
Lleolir trampolîn mwyaf y byd, "Bounce Below", yn Ogofâu Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog. Gall 100 o bobl ei ddefnyddio ar yr un pryd.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [trampoline].
- ↑ 2.0 2.1 Geiriadur y BBC Archifwyd 2014-06-26 yn archive.today [trampoline].
- ↑ (Saesneg) trampoline. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Mehefin 2014.
- ↑ (Saesneg) World's biggest trampoline set to open in Blaenau Ffestiniog slate caverns. ITV Wales (3 Gorffennaf 2014). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2014.