Iaith a siaredir yng Nghroatia a rhai gwledydd cyfagos yw Croateg. Mae'n iaith swyddogol yn Croatia, a cheir nifer sylweddol yn ei siarad yn Bosnia-Hertsegofina hefyd, gyda chyfanswm o 6.2 miliwn trwy'r byd yn ei siarad fel mamiaith.

Croateg
Math o gyfrwngamrywiolyn iaith, standard variety, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathEastern Herzegovinian Edit this on Wikidata
Enw brodorolhrvatski jezik Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 7,000,000
  • cod ISO 639-1hr Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2hrv Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3hrv Edit this on Wikidata
    GwladwriaethCroatia, Bosnia a Hertsegofina, Serbia, Montenegro, Awstria, Hwngari, yr Eidal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Tsiecia Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuGaj's Latin alphabet Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioInstitute of Croatian Language Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Tafodieithoedd Croateg
    Croateg 1100.
    Llyfr Gweddi Croateg o tua 1400

    Mae Croateg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafoneg a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Serbeg a Bosneg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel iaith, ac mae llawer o ieithyddion yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.

    Ardaloedd lle siaredir Croateg (2006)

    Mae Croateg yn iaith swyddogol Croatia ac yn Bosnia-Hertsegofina, Burgenland (Awstria), a Molise (Yr Eidal)

    Tafodieithoedd

    golygu

    Mae tair prif tafodiaith i'r Groateg, sy'n cael eu hadnabod yn ôl y gair ar gyfer y cwestiwn beth? - sef što, ča, neu kaj:

    • Štokavski ("što-eg"), a siaradir yn hanner Croatia - yn Slafonia, Zagora, ac ardal Dubrovnik, yn ogystal ag yng nghanolbarth Bosnia a Hertsegofina. Dyma'r dafodiaith sy'n sail i'r iaith Croateg safonol, ac yn sail ar gyfer Bosnieg, Serbeg a Montenegreg safonol hefyd.
    • Čakavski ("čak-eg"), a siaradir yn Istria, ardal Lika, ar ran fwyaf o ynysoedd Môr Adria, ar yr arfordir i'r gogledd o Dubrovnik, ac ar y tir mawr yn nyffryn Gacka a'r cyffiniau. Y dafodiaith "Čak-eg" hon oedd iaith Teyrnas Croatia rhwng y 12fed ganrif a'r 16eg ganrif
    • Kakajkavski ("kaj-eg"), a siaradir yng ngogledd-orllewin a chanol-orllewin y wlad (yn rhanbarthau Zagorje, Prigorje, Turopolje, Gorski Kotar, Međimurje, Podravina, Žumberak, Banija, Moslavina) ac yn ardal Zagreb. Y "Kaj-eg" hon oedd y dafodiaith uchaf ei statws rhwng yr 16eg ganrif a'r 19eg ganrif. "Kaj" yw'r gair ar gyfer beth? yn Slofeneg hefyd - mae tafodieithoedd Slafig De-Ddwyrain Ewrop yn ffurfio continwwm tafodieithoedd, gyda thafodieithoedd dwyrain Slofenia yn agos at rai gorllewin Croatia.

    Yr wyddor Croateg

    golygu

    Tabl Cymhariaeth

    golygu
    Cymraeg Croateg Serbeg
    Cymharu Usporedba Поређење (Poređenje)
    Ewrop Europa Европа (Evropa)
    Yr Iseldiroedd Nizozemska Холандија (Holandija)
    Eidalwyr Talijani Италијани (Italijani)
    Bydysawd Svemir Васиона (Vasiona)
    Asgwrn cefn Kralježnica Кичма (Kičma)
    Aer Zrak Ваздух (Vazduh)
    Addysg Odgoj Васпитање (Vaspitanje)
    Wythnos Tjedan Седмица (Sedmica)
    Hanes Povijest Историја (Istorija)
    Pantaloons Hlače Панталоне (Pantalone)
    Bol Trbuh Стомак (Stomak)
    Gwyddoniaeth Znanost Наука (Nauka)
    Yn bersonol Osobno Лично (Lično)
    Persona Osoba Лице (Lice)
    Cenhedloedd Unedig Ujedinjeni Narodi Уједињене Нације (Ujedinjene Nacije)
    Bara Kruh Хлеб (Hleb)
    Artiffisial Umjetno Вештачки (Veštački)
    Croes Križ Крст (Krst)
    Democratiaeth Demokracija Демократија (Demokratija)
    Detection Spoznaja Сазнање (Saznanje)
    Ynys Otok Острво (Ostrvo)
    Swyddog Časnik Официр (Oficir)
    Traffig (ar y ffyrdd) Cestovni promet Друмски саобраћај (Drumski saobraćaj)
    Traffordd Autocesta Аутопут (Autoput)
    Hyd Duljina Дужина (Dužina)
    Cymdeithas Udruga Удружење (Udruženje)
    Ffatri Tvornica Фабрика (Fabrika)
    Cyffredinol Opće Опште (Opšte)
    Crist Krist Христoс (Hristos)

    Geirfa syml

    golygu
    Cymhariaeth rhifau
    Cymraeg Croateg
    un jedan
    dau dva
    tri tri
    pedwar četiri
    pump pet
    chwech šest
    saith sedam
    wyth osam
    naw devet
    deg deset
    Cymhariaeth y misoedd
    Croateg Cymraeg
    Siječanj Ionawr
    Veljača Chwefror
    Ožujak Mawrth
    Travanj Ebrill
    Svibanj Mai
    Lipanj Mehefin
    Srpanj Gorffennaf
    Kolovoz Awst
    Rujan Medi
    Listopad Hydref
    Studeni Tachwedd
    Prosinac Rhagfyr
    Cyffredin
    Croateg Cymraeg
    Da/Ne Ie/Na
    Dobro Jutro Bore da
    Dobar Dan P'nawn da
    Laku Noć Nos da
    Govorite li Velški? Ydych chi'n siarad Cymraeg?
    Ja malo govorim hrvatski jezik. Dw i ddim yn siarad llawer o Groateg.
    Dva piva dau lager
    Molim plis
    Hvala diolch

    Oče naš, koji jesi na nebesima,
    sveti se ime Tvoje.
    Dođi kraljevstvo Tvoje,
    budi volja Tvoja,
    kako na Nebu, tako i na Zemlji.
    Kruh naš svagdašnji daj nam danas,
    i otpusti nam duge naše,
    kako i mi otpuštamo dužnicima našim.
    I ne uvedi nas u napast,
    nego izbavi nas od zla.

      Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
    Chwiliwch am croateg
    yn Wiciadur.