Traphont Dutton
Mae Traphont Dutton yn draphont ar Brif Llinell yr Arfordir Gorllewinol rhwng Llundain a’r Alban. Mae’r draphont yn croesi Afon Weaver a Dyfrffordd Weaver rhwng Dutton ac Acton Bridge yn Swydd Gaer. Mae’n adeilad rhestredig (Gradd II*). Adeiladwyd y draphont ym 1836, yn costio £54,440. Joseph Locke a George Stephenson oedd y peiriannwyr a William Mackenzie oedd yr adeiladwr.[1] Defnyddiwyd tywodfaen coch. Mae’r draphont yn 60 troedfedd o uchder a 500 llath o hyd, gyda 20 bwa. Ymddiswyddodd Stephenson cyn diwedd y prosiect.[2]
Math | traphont reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1837 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Grand Junction Railway |
Lleoliad | Dutton |
Sir | Swydd Gaer |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.282548°N 2.62804°W |
Cod OS | SJ5822476359 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |