Trefnwr angladdau
Rhywun proffesiynol sy'n ymwneud â'r busnes o ddefodau angladd yw trefnwr angladdau. Gall eu swyddi gynnwys pêr-eneinio a chladdu neu amlosgi'r marw, yn ogystal â chynllunio a threfnu seremoni'r angladd ei hun. Weithiau bydd gofyn iddynt wisgo'r meirw mewn dillad arbennig, eu gosod mewn arch, ac os bydd yr arch ar agor, rhoi math o golur ar y rhannau hynny o'r corff fydd i'w gweld yn ystod y seremoni.
Eginyn erthygl sydd uchod am alwedigaeth, swydd, cyflogaeth neu waith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.