Trefor Beasley
glöwr, ymgyrchydd (1918-1994)
Gŵr a chyd-ymgyrchydd iaith Eileen Beasley oedd Trefor Beasley (30 Tachwedd 1918 – 15 Mai 1994).[1]
Trefor Beasley | |
---|---|
Ganwyd | 30 Tachwedd 1918 Sir Gaerfyrddin |
Bu farw | 15 Mai 1994 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | glöwr, ymgyrchydd |
Priod | Eileen Beasley |
Gyda'i wraig Eileen Beasley mae e'n enwog am eu hymgyrch i fynnu papur treth Cymraeg (neu ddwyieithog) gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn ystod y 1950au. Yr adeg honno nid oedd statws i'r Gymraeg o gwbl: dim ffurflenni swyddogol gan gyrff cyhoeddus nac arwyddion ffyrdd dwyieithog. Wrth ymgyrchu dros y Gymraeg, fe gafodd Trefor wythnos o garchar am wrthod talu'r dreth gar[2].
Yn etholiad seneddol 1955 safodd Trefor Beasley dros Plaid Cymru yn etholaeth Aberdâr, gan ennill 3,703 o bleidleisiau (9.4%).