Triawd clasurol a lled-glasurol Cymreig yw Tri Tenor Cymru a ffurfiwyd yn yr un mold â'r Tri Thenor. Yr aelodau gwreiddiol oedd: Alun Rhys-Jenkins, Rhys Meirion ac Aled Hall. Yn 2014, gadawodd Alun Rhys-Jenkins er mwyn canolbwyntio ar ei waith yn y byd opera a daeth Aled Wyn Davies yn ei le.

Clawr yr albym cyntaf: Tri Tenor Cymru (Rhifnod : SAIN SCD 2643).

Daeth y tri at ei gilydd am y tro cyntaf yn 2009, yng Ngwyl Celtfest yng Nghaerdydd cyn gêm rhwng Cymru a Seland Newydd.

Lansiwyd eu halbym gyntaf 3 Tenor Cymru yn Awst 2011 ar label Cwmni Recordiau Sain (SAIN SCD 2643) gan gyrraedd y Classical Album Charts ym mis Medi.[1][2]

Disgyddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Sain (Recordiau) Cyf; Archifwyd 2016-10-17 yn y Peiriant Wayback adalwyd 18 Awst 2017.
  2. Gwefan golwg360; adalwyd 19 Awst 2017.