Aled Wyn Davies
Tenor o Gymru ydy Aled Wyn Davies (ganwyd 3 Awst 1974) o Lanbrynmair, ym Maldwyn, Powys. Dechreuodd ei yrfa fel canwr gwerin ond erbyn hyn mae'n unawdydd clasurol sy'n teithio'r byd yn ogystal ac amaethu o ddydd y ddydd ar y fferm deuluol gartref. Ef yw aelod newydd Tri Tenor Cymru gyda Rhys Meirion ac Aled Hall. Cyhoeddwyd ei hunangofiant O'r Gwlân i'r Gân gan Y Lolfa ym mis Hydref 2020.
Aled Wyn Davies | |
---|---|
Ganwyd | 3 Awst 1974 Llanbryn-mair |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr, ffermwr |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Math o lais | tenor |
Priod | Karina Wyn Dafis |
Bywgraffiad
golyguCychwynnodd ei yrfa fel canwr gwerin, ond ar ôl ennill y prif wobrau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dechreuodd dorri ei gwys ei hun fel tenor. Erbyn hyn, mae wedi ymddangos ar lwyfannau byd eang, radio a theledu.
Mae wedi ennill yr unawd tenor deirgwaith yn olynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004, 2005 a 2006, ac yna, yn 2006, cipiodd y Rhuban Glas ym Mhrifwyl Abertawe.
Fo oedd "Canwr y Flwyddyn" yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, 2005 a'r enillydd y Rhuban Glas yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 2006. Yn 2005 cafodd gyfle gan hyrwyddwr cyngherddau clasurol "Raymond Gubbay Ltd." i berfformio mewn cyngherddau Last Night of the Proms gan ganu mewn rhai o brif neuaddau Lloegr megis y Symphony Hall, Birmingham a'r Bridgewater Hall, Manceinion. Ym mis Awst 2007, cafodd wahoddiad gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru i berfformio yn un o gyngherddau'r wyl, gan rannu llwyfan gyda Chôr yr Eisteddfod, Iona Jones, Iwan Wyn Parry ac Ensemble Cymru mewn noson o waith Oratorio.
Yn y 90au crwydrodd Aled y wlad pan fu'n rhan o'r grŵp poblogaidd Traed dan Bwrdd yn cymryd rhan mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Trafeiliodd y grŵp dramor yn 2001 pan ddaeth gwahoddiad i berfformio mewn pum cyngerdd yng Ngwlad y Basg. Bu Aled hefyd yn aelod o Gwmni Theatr Maldwyn. Treuliodd amser fel un o'r corws i ddechrau, ac yna yn 2003 yn y sioe Ann! chwaraeodd un o'r rhannau blaenllaw, sef John Hughes, ffrind Ann Griffiths, Dolwar Fach.
Canodd ym mhrif neuaddau Seland Newydd ac Awstralia pan ymunodd â Chôr Godre'r Aran fel eu hunawdydd gwadd ar eu taith gerddorol yn 2003. Mae wedi canu ddwywaith yng nghyngherddau Gŵyl Ddewi Capel Cymraeg Los Angeles ac yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae wedi perfformio ar fordeithiau i'r cwmni Swan Hellenic. Ym mis Tachwedd 2007 treuliodd dair wythnos yn yr Ariannin a Brasil pan fu'n unawdydd gwadd i Gôr Godre'r Aran mewn taith gerddorol i Batagonia.
Yng ngwanwyn 2008 perfformiodd Aled mewn cyngherddau Gŵyl Ddewi yn Ne Affrica gyda Chôr Meibion Cymru De Affrica.
Ym mis Awst 2008 perfformiodd mewn cyngherddau yng ngŵyl Gymraeg Gogledd America a chafodd eu chynnal yn Chicago, UDA. Dychwelodd i'r ŵyl yn 2011 fel unawdydd gwâdd gyda Hogia'r Ddwylan pan fu'r ŵyl yn Cleveland, Ohio.
Yn Chwefror, 2015 derbynniodd wahoddiad arbennig iawn i gyd-ganu y ddeuawd enwog "Y Pysgotwyr Perl" (Pearl Fishers Duet) gyda Bryn Terfel mewn cyngerdd arbennig yn y Tabernacl ym Machynlleth.
Erbyn hyn, Aled yw aelod newydd Tri Tenor Cymru gyda Rhys Meirion ac Aled Hall wedi ymadawiad Alun Rhys-Jenkins ddiwedd 2014.
Disgograffeg
golygu- Ann!, (Cwmni Theatr Maldwyn), Gorffennaf 2004 (Sain)
- Nodau Aur Fy Nghân, 12 Chwefror 2007 (Sain)
- Erwau'r Daith, 27 Gorffennaf 2015 (Sain)
Gwobrau ac anrhydeddau
golygu- 1af Unawd Alaw Werin Agored - Gŵyl Gerdd Dant Cymru, Aberystwyth 1998
- 1af Unawd Canu Gwerin draddodiadol - Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 1999
- Unawdydd yr Eisteddfod - Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Y Drenewydd 1999
- Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001
- Unawdydd 2001 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001
- Gwisg Werdd er Anrhydedd yng Ngorsedd y Beirdd - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002
- 1af Unawd Tenor dros 25ain oed - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004
- Unawdydd y Flwyddyn - Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2005
- 1af Unawd Tenor dros 25ain oed - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005
- 1af Unawd Gymraeg, 1af Unawd Oratorio, 1af Unawd allan o Sioe Gerdd, 1af Her Unawd Agored - Eisteddfod Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan 2005
- Rhuban Glas ac Unawdydd yr Eisteddfod - Gŵyl Fawr Aberteifi 2006
- 1af Unawd Tenor dros 25ain oed - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006
- Gwobr Goffa David Ellis -Y Rhuban Glas - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- aledwyndavies.com
- Gwrandewch ar Aled ar Myspace Music
- Lluniau Diweddaraf o Aled Wyn Davies
- Llun o Aled Wyn Davies yn Llanfair Caerenion Archifwyd 2008-03-24 yn y Peiriant Wayback 5 Mai 2007
- Llun o Aled Wyn Davies yn Eisteddfod 2005