Tri Tryweryn
Tri ymgyrchydd a osododd fom ar safle adeiladu cronfa ddŵr Tryweryn oedd Tri Tryweryn, sef: Emyr Llywelyn, Owain Williams, a John Albert Jones. Cafodd Emyr Llywelyn ac Owain Williams eu carcharu am ddifrodi trosglwyddydd ar y safle gyda'r bom yn oriau mân fore Sadwrn, 10 Chwefror 1963.[1] Arestiwyd Emyr Llywelyn, a oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth, yn y dre honno rhyw wythnos wedyn ond wnaeth e ddim datgelu pwy oedd gyda fe yn gwneud y weithred. Fe fu achos traddodi yn y Bala, gyda William R. P. George yn ei amddiffyn. Plediodd yn euog ac fe'i dedfrydwyd am flwyddyn o garchar yn Asaisis Caerfyrddin.

Cyfeiriadau golygu
- ↑ Bomwyr Tryweryn yn cwrdd ar ôl hanner can mlynedd. Golwg360 (25 Ionawr 2013). Adalwyd ar 10 Chwefror 2013.
Tryweryn |
Capel Celyn |
Mesur Tryweryn |
Tri Tryweryn |
Ffermydd a foddwyd yng Nghwm Tryweryn |
Llyn Celyn |
Cofiwch Dryweryn |
( | )