William R. P. George

cyfreithiwr a bardd o Gymru

Bardd a chyfreithiwr oedd William Richard Philip George CBE (20 Hydref 191220 Tachwedd 2006), ac yr oedd yn nai i David Lloyd George a fu'n brifweinidog y Deyrnas Unedig.

William R. P. George
Ganwyd20 Hydref 1912 Edit this on Wikidata
Cricieth Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 2006 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yng Nghricieth ac yr oedd ei dad, William George yn frawd iau i David Lloyd George.

Ar waethaf tueddiadau Rhyddfrydol y teulu, roedd yn gefnogol i Blaid Cymru, a bu'n gynghorydd annibynnol ar Gyngor Sir Gwynedd o 1967 tan 1996.

Roedd yn fardd ac fe'i coronwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974 am ei bryddest "Tân". Derbyniodd ddoethuriaeth oddi wrth Prifysgol Cymru yn 1988, a bu'n archdderwydd o 1990 hyd 1993.