Triniaeth ocsigen
Triniaeth ocsigen yw'r defnydd o ocsigen fel triniaeth feddygol[1]. Os ydi’r lefelau ocsigen yn eich gwaed yn isel, bydd therapi ocsigen yn gwella eich blinder a’ch diffyg anadl.
Math o gyfrwng | therapi, cyffur hanfodol, gasocrinology |
---|---|
Math | Cymorth cyntaf, medical gas therapy, gasocrinology |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnydd meddygol
golyguOs ydi’r lefelau ocsigen yn eich gwaed yn isel, mae anadlu aer efo mwy o ocsigen ynddo yn gallu cywiro hyn. Bydd cael rhagor o ocsigen yn gwneud i chi deimlo’n llai allan o wynt, yn llai blinedig a byddwch yn gallu gwneud mwy, yn enwedig os yw eich diffyg anadl yn waeth wrth symud.
Gallwch anadlu’r ocsigen i mewn o’r cynhwysydd naill ai drwy ganwla trwyn neu fasg wyneb. Gellir defnyddio canwla trwyn i ddanfon saith litr o ocsigen y funud yn gyfforddus. Os oes angen cyfradd ocsigen uwch arnoch chi, efallai bod ocsigen llif uchel drwy ganwla trwyn ar gael.
Efallai y cewch chi therapi ocsigen os ydych chi wedi cael diagnosis o un o’r cyflyrau hyn, neu gyfuniad ohonynt:
- Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac emffysema
- Clefyd interstitaidd yr ysgyfaint sy’n cynnwys ffibrosis idiopathig yr ysgyfaint (IPF)
- Ffibrosis systig
- Canser yr ysgyfaint
- Bronciectasis
- Pwysedd gwaed uchel yr ysgyfaint
- Clefyd y galon sy’n ddifrifol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British national formulary : BNF 69 (arg. 69). British Medical Association. 2015. tt. 217–218, 302. ISBN 9780857111562.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation. Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |