Troellwr bach

rhywogaeth o adar
Troellwr Bach
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Locustellidae
Genws: Locustella
Rhywogaeth: L. naevia
Enw deuenwol
Locustella naevia
(Boddaert, 1783)

Aderyn sy'n aelod o deulu'r Locustellidae yw'r Troellwr bach, hefyd Telor y gwair (Locustella naevia). Mae'n aderyn mudol, yn nythu yn Ewrop a rhannau tymherol Asia, ac yn gaeafu ymhellach i'r de o ogledd-orllewin Affrica hyd India.

Ei gynefin fel arfer yw llecyn lle ceir tyfiant trwchus ond cymharol fyr. Mae tua 12.5 - 13.5 cm o hyd, ac yn aderyn brown gyda rhesi ar hyd ei gefn. Gall fod yn anodd iawn i'w weld. Mae ei gân yn swnio'n debyg i dröell.

Gall fod yn aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.