Tsafasieg

iaith

Iaith Dyrcaidd yw Tsafasieg a siaredir gan y Tsafasiaid yn Tsafasia a thiroedd cyfagos ar hyd ganol Afon Volga, yng nghanolbarth Rwsia Ewropeaidd. Dyma'r unig iaith fyw sydd yn disgyn o'r hen iaith Folgareg. Mae Tsafasieg yn dra-gwahanol i'r ieithoedd Tyrcaidd eraill, ac ar un pryd roedd ieithyddion yn credu iddi perthyn i gangen rhwng yr ieithoedd Tyrcaidd a Mongolaidd, neu yn ffurf Dyrcigedig ar iaith Ffinno-Wgrig.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) Chuvash language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Tachwedd 2019.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.